bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 6
Leviticus 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 7 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Os pecha dyn, a gwneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD, a dywedyd celwydd wrth ei gymydog am yr hyn a rodded ato i'w gadw, neu am yr hyn y rhoddes efe ei law, neu yn yr hyn trwy drawster a ddygodd efe, neu yn yr hyn y twyllodd ei gymydog;
3
Neu os cafodd beth gwedi ei golli, a dywedyd celwydd amdano, neu dyngu yn anudon; am ddim o'r holl bethau a wnelo dyn, gan bechu ynddynt:
4
Yna, am iddo bechu, a bod yn euog; bydded iddo roddi yn ei ôl y trais a dreisiodd efe, neu y peth a gafodd trwy dwyll, neu y peth a adawyd i gadw gydag ef, neu y peth wedi ei golli a gafodd efe,
5
Neu beth bynnag y tyngodd efe anudon amdano; taled hynny erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato: ar y dydd yr offrymo dros gamwedd, rhodded ef i'r neb a'i piau.
6
A dyged i'r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7
A gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog ohono.
8
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
9
Gorchymyn i Aaron, ac i'w feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y poethoffrwm: (poethoffrwm yw, oherwydd y llosgi ar yr allor ar hyd y nos hyd y bore, a thân yr allor a gyneuir arni.)
10
Gwisged yr offeiriad hefyd ei lieinwisg amdano, a gwisged lodrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle yr ysodd y tân y poethaberth ar yr allor, a gosoded ef gerllaw yr allor.
11
A diosged ei wisgoedd, a gwisged ddillad eraill, a dyged allan y lludw i'r tu allan i'r gwersyll, i le glân.
12
A chyneuer y tân sydd ar yr allor arni; na ddiffodded: ond llosged yr offeiriad goed arni bob bore; a threfned y poethoffrwm arni, a llosged wêr yr aberth hedd arni.
13
Cyneuer y tân bob amser ar yr allor; na ddiffodded.
14
Dyma hefyd gyfraith y bwyd‐offrwm. Dyged meibion Aaron ef gerbron yr ARGLWYDD, o flaen yr allor:
15
A choded ohono yn ei law o beilliaid y bwyd‐offrwm, ac o'i olew, a'r holl thus yr hwn fydd ar y bwyd‐offrwm; a llosged ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
16
A'r gweddill ohono a fwyty Aaron a'i feibion: yn groyw y bwyteir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
17
Na phober ef trwy lefain. Rhoddais ef yn rhan iddynt o'm haberthau tanllyd: peth sancteiddiolaf yw hyn, megis yr aberth dros bechod, a'r aberth dros gamwedd.
18
Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hyn: deddf dragwyddol fydd yn eich cenedlaethau am aberthau tanllyd yr ARGLWYDD; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
19
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
20
Dyma offrwm Aaron a'i feibion, yr hwn a offrymant i'r ARGLWYDD, ar y dydd yr eneinier ef. Degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm gwastadol, ei hanner y bore, a'i hanner brynhawn.
21
Gwneler ef trwy olew mewn padell: yna y dygi ef i mewn wedi ei grasu; ac offryma ddarnau y bwyd‐offrwm wedi ei grasu, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
22
A'r offeiriad o'i feibion ef, yr hwn a eneinir yn ei le ef, gwnaed hyn, trwy ddeddf dragwyddol: llosger y cwbl i'r ARGLWYDD.
23
A phob bwyd‐offrwm dros yr offeiriad a fydd wedi ei losgi oll: na fwytaer ef.
24
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
25
Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poethoffrwm, y lleddir yr aberth dros bechod gerbron yr ARGLWYDD: sancteiddiolaf yw efe.
26
Yr offeiriad a'i hoffrymo dros bechod, a'i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef, yng nghynteddfa pabell y cyfarfod.
27
Beth bynnag a gyffyrddo â'i gig ef, a fydd sanctaidd: a phan daeneller o'i waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hyn y taenellodd y gwaed arno.
28
A thorrer y llestr pridd y berwer ef ynddo: ond os mewn llestr pres y berwir ef, ysgwrier a golcher ef mewn dwfr.
29
Bwytaed pob gwryw ymysg yr offeiriaid ef: sancteiddiolaf yw efe.
30
Ac na fwytaer un offrwm dros bechod, yr hwn y dyger o'i waed i babell y cyfarfod, i wneuthur cymod yn y lle sanctaidd; ond llosger mewn tân.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27