bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 14
Leviticus 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 15 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad:
3
A'r offeiriad a ddaw allan o'r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla'r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus;
4
Yna gorchmynned yr offeiriad i'r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop.
5
A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
6
A chymered efe yr aderyn byw, a'r coed cedr, a'r ysgarlad, a'r isop, a throched hwynt a'r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.
7
A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes.
8
A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i'r gwersyll, a thriged o'r tu allan i'w babell saith niwrnod.
9
A'r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a'i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd.
10
A'r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew.
11
A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12
A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a'r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
13
A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a'r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo'r offeiriad, yn gystal â'r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw.
14
A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef.
15
A chymered yr offeiriad o'r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun:
16
A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o'r olew â'i fys seithwaith gerbron yr ARGLWYDD.
17
Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd.
18
A'r rhan arall o'r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr ARGLWYDD.
19
Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm.
20
Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a'r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd.
21
Ond os tlawd fydd, a'i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i'w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew;
22
A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a'r llall yn boethoffrwm.
23
A dyged hwynt yr wythfed dydd i'w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD.
24
A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
25
A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau.
26
A thywallted yr offeiriad o'r olew ar gledr ei law aswy ei hun:
27
Ac â'i fys deau taenelled yr offeiriad o'r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr ARGLWYDD.
28
A rhodded yr offeiriad o'r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd.
29
A'r rhan arall o'r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD.
30
Yna offrymed un o'r turturau, neu o'r cywion colomennod, sef o'r rhai a gyrhaeddo ei law ef;
31
Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr ARGLWYDD.
32
Dyma gyfraith yr un y byddo pla'r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i'w lanhad.
33
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
34
Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant;
35
A dyfod o'r hwn biau'r tŷ, a dangos i'r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:
36
Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi'r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ;
37
Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a'r olwg arnynt yn is na'r pared;
38
Yna aed yr offeiriad allan o'r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod.
39
A'r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ;
40
Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu'r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o'r ddinas i le aflan.
41
A phared grafu'r tŷ o'i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o'r tu allan i'r ddinas i le aflan.
42
A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ.
43
Ond os daw'r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu'r cerrig, ac wedi crafu'r tŷ, ac wedi priddo;
44
Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe.
45
Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a'i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i'r tu allan i'r ddinas i le aflan.
46
A'r hwn a ddêl i'r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr.
47
A'r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad.
48
Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo'r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla.
49
A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop.
50
A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog.
51
A chymered y coed cedr, a'r isop, a'r ysgarlad, a'r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith.
52
A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â'r dwfr rhedegog, ac â'r aderyn byw, ac â'r coed cedr, ac â'r isop, ac â'r ysgarlad.
53
A gollynged yr aderyn byw allan o'r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd.
54
Dyma gyfraith am bob pla'r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech,
55
Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ,
56
Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb;
57
I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27