bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 26
Leviticus 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 27 →
1
Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
2
Fy Sabothau i a gedwch, a'm cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr ARGLWYDD.
3
Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a'm gorchmynion a gedwch, a'u gwneuthur hwynt;
4
Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
5
A'ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a'ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel.
6
Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i'r bwystfil niweidiol ddarfod o'r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
7
Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o'ch blaen ar y cleddyf.
8
A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a'ch gelynion a syrth o'ch blaen ar y cleddyf.
9
A mi a edrychaf amdanoch, ac a'ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a'ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi.
10
A'r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
11
Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
12
A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn DDUW i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13
Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14
Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn;
15
Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod;
16
Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a'r cryd poeth, y rhai a wna i'r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a'i bwyty:
17
Ac a osodaf fy wyneb i'ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a'ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18
Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau.
19
A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a'ch tir chwi fel pres:
20
A'ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21
Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau.
22
Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a'ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a'ch lleiha chwi; a'ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23
Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24
Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a'ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau.
25
A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i'ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i'ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26
A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni'ch digonir chwi.
27
Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi;
28
Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a'ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau.
29
A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch.
30
Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a'm henaid a'ch ffieiddia chwi.
31
A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
32
A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o'i herwydd.
33
Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a'ch tir fydd ddiffeithwch, a'ch dinasoedd yn anghyfannedd.
34
Yna y mwynha'r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau.
35
Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.
36
A'r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a'u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
37
A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
38
Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a'ch bwyty.
39
A'r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant.
40
Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â'u camwedd yr hwn a wnaethant i'm herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi;
41
A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a'u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a'u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth:
42
Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a'm cyfamod hefyd ag Isaac, a'm cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd.
43
A'r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o'u henaid fy neddfau.
44
Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i'w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr ARGLWYDD eu DUW hwynt.
45
Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn DDUW: myfi ydwyf yr ARGLWYDD.
46
Dyma'r deddfau, a'r barnedigaethau, a'r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27