bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 12
Matthew 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy'r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta.
2
A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth.
3
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef?
4
Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i'r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i'r offeiriaid?
5
Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi'r Saboth, a'u bod yn ddigerydd?
6
Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na'r deml.
7
Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.
8
Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn.
9
Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.
10
Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno.
11
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?
12
Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau.
13
Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.
14
Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
15
A'r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachaodd hwynt oll;
16
Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd:
17
Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,
18
Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i'r Cenhedloedd.
19
Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20
Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth.
21
Ac yn ei enw ef y gobeithia'r Cenhedloedd.
22
Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud.
23
A'r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd?
24
Eithr pan glybu'r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelsebub pennaeth y cythreuliaid.
25
A'r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.
26
Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef?
27
Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.
28
Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch.
29
Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef.
30
Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31
Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion.
32
A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw.
33
Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.
34
O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara'r genau.
35
Y dyn da, o drysor da'r galon, a ddwg allan bethau da: a'r dyn drwg, o'r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg.
36
Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn.
37
Canys wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.
38
Yna yr atebodd rhai o'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt.
39
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas:
40
Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear.
41
Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi; am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma.
42
Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma.
43
A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael.
44
Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a'i drwsio.
45
Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.
46
Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.
47
A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.
48
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?
49
Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i:
50
Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28