bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 18
Matthew 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Ar yr awr honno y daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?
2
A'r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hwynt;
3
Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
4
Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5
A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.
6
A phwy bynnag a rwystro un o'r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
7
Gwae'r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae'r dyn hwnnw drwy'r hwn y daw'r rhwystr!
8
Am hynny os dy law neu dy droed a'th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragwyddol.
9
Ac os dy lygad a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.
10
Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
11
Canys daeth Mab y dyn i gadw'r hyn a gollasid.
12
Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio'r hon a aeth ar ddisberod?
13
Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno mwy nag am y namyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod.
14
Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli'r un o'r rhai bychain hyn.
15
Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd.
16
Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy.
17
Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican.
18
Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.
19
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a'r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
20
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
21
Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?
22
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.
23
Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.
24
A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.
25
A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu'r ddyled.
26
A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.
27
Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo'r ddyled.
28
Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gyd‐weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.
29
Yna y syrthiodd ei gyd‐was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti'r cwbl oll.
30
Ac nis gwnâi efe; ond myned a'i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.
31
A phan welodd ei gyd‐weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.
32
Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi:
33
Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd‐was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?
34
A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo.
35
Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob un i'w frawd eu camweddau.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28