bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 14
Matthew 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu;
2
Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3
Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai, ac a'i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef.
4
Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.
5
Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a'i cymerent ef megis proffwyd.
6
Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.
7
O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai.
8
A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.
9
A'r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi.
10
Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11
A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a'i rhoddwyd i'r llances: a hi a'i dug ef i'w mam.
12
A'i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Iesu.
13
A phan glybu'r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o'r neilltu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14
A'r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15
Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta.
17
A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn.
18
Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.
19
Ac wedi gorchymyn i'r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua'r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r torfeydd.
20
A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn.
21
A'r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
22
Ac yn y fan y gyrrodd yr Iesu ei ddisgyblion i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith.
23
Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddïo: ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig.
24
A'r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau: canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.
25
Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr.
26
A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn.
27
Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch.
28
A Phedr a'i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.
29
Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.
30
Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31
Ac yn y man yr estynnodd yr Iesu ei law, ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?
32
A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.
33
A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydwyt ti.
34
Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret.
35
A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwyl;
36
Ac a atolygasant iddo gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddodd, a iachawyd.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28