bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 26
Matthew 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
A bu, wedi i'r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
2
Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae'r pasg; a Mab y dyn a draddodir i'w groeshoelio.
3
Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas:
4
A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef.
5
Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
6
Ac a'r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus,
7
Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.
8
A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu'r golled hon?
9
Canys fe a allasid gwerthu'r ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion.
10
A'r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
11
Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser.
12
Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i.
13
Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
14
Yna yr aeth un o'r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid,
15
Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.
16
Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef.
17
Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta'r pasg?
18
Ac yntau a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a'm disgyblion.
19
A'r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai'r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg.
20
Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda'r deuddeg.
21
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a'm bradycha i.
22
A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.
24
Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.
25
A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.
27
Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn:
28
Canys hwn yw fy ngwaed o'r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau.
29
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.
30
Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
31
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.
32
Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o'ch blaen chwi i Galilea.
33
A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, eto ni'm rhwystrir i byth.
34
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.
35
Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
36
Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw.
37
Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio.
38
Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi.
39
Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40
Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a'u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi?
41
Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan.
42
Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di.
43
Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
44
Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.
45
Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae'r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.
46
Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47
Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o'r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl.
48
A'r hwn a'i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.
49
Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a'i cusanodd ef.
50
A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef.
51
Ac wele, un o'r rhai oedd gyda'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52
Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.
53
A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion?
54
Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod?
55
Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni'm daliasoch.
56
A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau'r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
57
A'r rhai a ddaliasent yr Iesu, a'i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd.
58
A Phedr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda'r gweision, i weled y diwedd.
59
A'r archoffeiriaid a'r henuriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth;
60
Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst,
61
Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.
62
A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae'r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
63
Ond yr Iesu a dawodd. A'r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy'r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw.
64
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r gallu, ac yn dyfod ar gymylau'r nef.
65
Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.
66
Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.
67
Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiasant; eraill a'i trawsant ef â gwiail,
68
Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw'r hwn a'th drawodd?
69
A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead.
70
Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71
A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda'r Iesu o Nasareth.
72
A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn.
73
Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
74
Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.
75
A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28