bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 19
Matthew 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i'r Iorddonen:
2
A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
3
A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â'i wraig am bob achos?
4
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw?
5
Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.
6
Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn.
7
Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?
8
Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechrau nid felly yr oedd.
9
Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae'r hwn a briodo'r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.
10
Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae'r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.
11
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.
12
Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.
13
Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.
14
A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.
15
Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.
16
Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol?
17
Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.
18
Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth,
19
Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun.
20
Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto?
21
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
22
A phan glybu'r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
23
Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.
24
A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau'r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
25
A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?
26
A'r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.
27
Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?
28
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
29
A phob un a'r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe.
30
Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28