bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 16
Matthew 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
Ac wedi i'r Phariseaid a'r Sadwceaid ddyfod ato, a'i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo'r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae'r wybr yn goch.
3
A'r bore, Heddiw drycin; canys y mae'r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
4
Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.
5
Ac wedi dyfod ei ddisgyblion ef i'r lan arall, hwy a ollyngasent dros gof gymryd bara ganddynt.
6
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.
7
A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Hyn sydd am na chymerasom fara gennym.
8
A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi o ychydig ffydd, paham yr ydych yn ymresymu yn eich plith eich hunain, am na chymerasoch fara gyda chwi?
9
Onid ydych chwi yn deall eto, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?
10
Na saith dorth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gymerasoch i fyny?
11
Pa fodd nad ydych yn deall, nad am fara y dywedais wrthych, ar ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid?
12
Yna y deallasant na ddywedasai efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid.
13
Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?
14
A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o'r proffwydi.
15
Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi?
16
A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw'r Crist, Mab y Duw byw.
17
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
18
Ac yr ydwyf finnau yn dywedyd i ti, mai ti yw Pedr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi.
19
A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, a fydd rhwymedig yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaear, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
20
Yna y gorchmynnodd efe i'w ddisgyblion, na ddywedent i neb mai efe oedd Iesu Grist.
21
O hynny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerwsalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22
A Phedr, wedi ei gymryd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd, trugarha wrthyt dy hun; ni bydd hyn i ti.
23
Ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrth Pedr, Dos yn fy ôl i, Satan: rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.
24
Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi.
25
Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegid i, a'i caiff.
26
Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?
27
Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.
28
Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma, a'r ni phrofant angau, hyd oni welont Fab y dyn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28