bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 15
Matthew 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
1
Yna yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd,
2
Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara.
3
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi?
4
Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a'th fam: a'r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw.
5
Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd.
6
Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun.
7
O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd,
8
Nesáu y mae'r bobl hyn ataf â'u genau, a'm hanrhydeddu â'u gwefusau; a'u calon sydd bell oddi wrthyf.
9
Eithr yn ofer y'm hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.
10
Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch.
11
Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dyn.
12
Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o'r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn?
13
Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir.
14
Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.
15
A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni'r ddameg hon.
16
A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall?
17
Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau, yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r geudy?
18
Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sydd yn dyfod allan o'r galon; a'r pethau hynny a halogant ddyn.
19
Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau:
20
Dyma'r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.
21
A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22
Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul.
23
Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl.
24
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel.
25
Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi.
26
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara'r plant, a'i fwrw i'r cŵn.
27
Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae'r cŵn yn bwyta o'r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.
28
Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.
29
A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.
30
A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt:
31
Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32
A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd.
33
A'i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint?
34
A'r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain.
35
Ac efe a orchmynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaear.
36
A chan gymryd y saith dorth, a'r pysgod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'w ddisgyblion, a'r disgyblion i'r dyrfa.
37
A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o'r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn.
38
A'r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
39
Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28