bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 4
Matthew 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
1
Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r anialwch gan yr Ysbryd, i'w demtio gan ddiafol.
2
Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd.
3
A'r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.
4
Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.
5
Yna y cymerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;
6
Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Y rhydd efe orchymyn i'w angylion amdanat; a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.
7
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.
8
Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a'u gogoniant;
9
Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.
10
Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.
11
Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.
12
A phan glybu'r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.
13
A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali:
14
Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,
15
Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd:
16
Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i'r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.
17
O'r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
18
A'r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; canys pysgodwyr oeddynt:
19
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a'ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.
20
A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a'i canlynasant ef.
21
Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a'u galwodd hwy.
22
Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a'u tad, a'i canlynasant ef.
23
A'r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
24
Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl oedd â'r parlys arnynt; ac efe a'u hiachaodd hwynt.
25
A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28