bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 8
Matthew 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
1
Ac wedi ei ddyfod ef i waered o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.
2
Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.
3
A'r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.
4
A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
5
Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno,
6
A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddirfawr.
7
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.
8
A'r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a'm gwas a iacheir.
9
Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
10
A'r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
11
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd:
12
Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
13
A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A'i was a iachawyd yn yr awr honno.
14
A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r cryd.
15
Ac efe a gyffyrddodd â'i llaw hi; a'r cryd a'i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16
Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;
17
Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
18
A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i'r lan arall.
19
A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
20
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21
Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
22
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i'r meirw gladdu eu meirw.
23
Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddisgyblion a'i canlynasant ef.
24
Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu.
25
A'i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom.
26
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.
27
A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a'r môr yn ufuddhau iddo!
28
Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.
29
Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i'n poeni ni cyn yr amser?
30
Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.
31
A'r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i'r genfaint foch.
32
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i'r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.
33
A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i'r rhai dieflig.
34
Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o'u cyffiniau hwynt.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28