bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 28
Matthew 28
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
1
Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i'r dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bedd.
2
Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.
3
A'i wynepryd oedd fel mellten, a'i wisg yn wen fel eira.
4
A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw.
5
A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd.
6
Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.
7
Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi.
8
Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddisgyblion ef.
9
Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a'i haddolasant.
10
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y'm gwelant i.
11
Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wyliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12
Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda'r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i'r milwyr,
13
Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a'i lladratasant ef, a nyni yn cysgu.
14
Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15
A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.
16
A'r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i'r mynydd lle yr ordeiniasai'r Iesu iddynt.
17
A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant.
18
A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.
19
Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân;
20
Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28