bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 20
Matthew 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
1
Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.
2
Ac wedi cytuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.
3
Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa;
4
Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.
5
A hwy a aethant ymaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr un modd.
6
Ac efe a aeth allan ynghylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y sefwch chwi yma ar hyd y dydd yn segur?
7
Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntau wrthynt, Ewch chwithau i'r winllan; a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.
8
A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y winllan a ddywedodd wrth ei oruchwyliwr, Galw'r gweithwyr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechrau o'r rhai diwethaf hyd y rhai cyntaf.
9
A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob un geiniog.
10
A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy; a hwythau a gawsant bob un geiniog.
11
Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,
12
Gan ddywedyd, Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal â ninnau, y rhai a ddygasom bwys y dydd, a'r gwres.
13
Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth un ohonynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?
14
Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megis i tithau.
15
Onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad di yn ddrwg, am fy mod i yn dda?
16
Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17
Ac a'r Iesu yn myned i fyny i Jerwsalem, efe a gymerth y deuddeg disgybl o'r neilltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt,
18
Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth,
19
Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
20
Yna y daeth mam meibion Sebedeus ato gyda'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.
21
Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hithau wrtho, Dywed am gael o'm dau fab hyn eistedd, y naill ar dy law ddeau, a'r llall ar dy law aswy, yn dy frenhiniaeth.
22
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwpan yr ydwyf fi ar yfed ohono, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.
23
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwpan, ac y'ch bedyddir â'r bedydd y'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddeau ac ar fy llaw aswy, nid eiddof ei roddi; ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhad.
24
A phan glybu'r deg hyn, hwy a sorasant wrth y ddau frodyr.
25
A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod penaethiaid y Cenhedloedd yn tra‐arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt hwy.
26
Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog i chwi;
27
A phwy bynnag a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded yn was i chwi:
28
Megis na ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
29
Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.
30
Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
31
A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym.
32
A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi?
33
Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.
34
A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd â'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28