bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 24
Matthew 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
A'r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau'r deml.
2
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a'r ni ddatodir.
3
Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?
4
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.
5
Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.
6
A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd eto.
7
Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau.
8
A dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9
Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10
Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11
A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.
12
Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13
Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14
A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
15
Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
16
Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd.
17
Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o'i dŷ:
18
A'r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad.
19
A gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
20
Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth:
21
Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau'r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.
22
Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23
Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.
24
Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.
25
Wele, rhagddywedais i chwi.
26
Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
27
Oblegid fel y daw'r fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
28
Canys pa le bynnag y byddo'r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
29
Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr.
31
Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
32
Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
33
Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau.
34
Yn wir meddaf i chwi, Nid â'r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
35
Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
36
Ond am y dydd hwnnw a'r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig.
37
Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
38
Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch,
39
Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
40
Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a'r llall a adewir.
41
Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a'r llall a adewir.
42
Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43
A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai'r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
44
Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn.
45
Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
46
Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47
Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48
Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod;
49
A dechrau curo ei gyd‐weision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon;
50
Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;
51
Ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28