bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Matthew 3
Matthew 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
Ac yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea,
2
A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
3
Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef.
4
A'r Ioan hwnnw oedd â'i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5
Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:
6
A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7
A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Sadwceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8
Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.
9
Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.
10
Ac yr awr hon hefyd y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
11
Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.
12
Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
13
Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.
14
Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi?
15
Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae'n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.
16
A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.
17
Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28