bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 12
Acts 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
1
Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o'r eglwys.
2
Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â'r cleddyf.
3
A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau'r bara croyw ydoedd hi.)
4
Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i'w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl.
5
Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef.
6
A phan oedd Herod â'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.
7
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.
8
A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi.
9
Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
10
Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a'r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho.
11
A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei angel, a'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon.
12
Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â'i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo.
13
Ac fel yr oedd Pedr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a'i henw Rhode.
14
A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd; eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Pedr yn sefyll o flaen y porth.
15
Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti'n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.
16
A Phedr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synasant.
17
Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai'r Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.
18
Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ymhlith y milwyr, pa beth a ddaethai o Pedr.
19
Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
20
Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
21
Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt.
22
A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw.
23
Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai'r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24
A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd.
25
A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28