bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 3
Acts 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
1
Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i'r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed.
2
A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml.
3
Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r deml, a ddeisyfodd gael elusen.
4
A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.
5
Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt.
6
Yna y dywedodd Pedr, Arian ac aur nid oes gennyf; eithr yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia.
7
A chan ei gymryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fferau a gadarnhawyd.
8
A chan neidio i fyny, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyda hwynt i'r deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.
9
A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.
10
Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.
11
Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i'r porth a elwir Porth Solomon.
12
A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?
13
Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i'w ollwng yn rhydd.
14
Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;
15
A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.
16
A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.
17
Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.
18
Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.
19
Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo'r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd;
20
Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi:
21
Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed.
22
Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.
23
A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl.
24
A'r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o'r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn.
25
Chwychwi ydych blant y proffwydi, a'r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear.
26
Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28