bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 2
Acts 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
1
Ac wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr un lle.
2
Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd.
3
Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt.
4
A hwy oll a lanwyd â'r Ysbryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd.
5
Ac yr oedd yn trigo yn Jerwsalem. Iddewon, gwŷr bucheddol, o bob cenedl dan y nef.
6
Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, oherwydd bod pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.
7
Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw'r rhai hyn oll sydd yn llefaru?
8
A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni?
9
Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia,
10
Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid,
11
Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.
12
A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod?
13
Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14
Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau:
15
Canys nid yw'r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.
16
Eithr hyn yw'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd Joel;
17
A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion:
18
Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant:
19
A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.
20
Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.
21
A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
22
Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:
23
Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:
24
Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.
25
Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.
26
Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:
27
Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
28
Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lawenydd â'th wynepryd.
29
Ha wŷr frodyr, y mae'n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn.
30
Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef:
31
Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth.
32
Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33
Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o'r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed.
34
Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
35
Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
36
Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.
37
Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?
38
A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân.
39
Canys i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo'r Arglwydd ein Duw ni ato.
40
Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.
41
Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.
42
Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau.
43
Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.
44
A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin;
45
A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb.
46
A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon,
47
Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28