bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 14
Acts 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
1
Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Iddewon ac o'r Groegwyr hefyd.
2
Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau'r Cenhedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.
3
Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.
4
Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.
5
A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u llywodraethwyr, i'w hamherchi hwy, ac i'w llabyddio,
6
Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlad oddi amgylch:
7
Ac yno y buant yn efengylu.
8
Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed.
9
Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd,
10
A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.
11
A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom.
12
A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf.
13
Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu.
14
A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,
15
A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:
16
Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.
17
Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.
18
Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19
A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.
20
Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.
21
Ac wedi iddynt bregethu'r efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22
Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23
Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a'u gorchmynasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
24
Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.
25
Ac wedi pregethu'r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia:
26
Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i'r gorchwyl a gyflawnasant.
27
Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
28
Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda'r disgyblion.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28