bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 27
Acts 27
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
1
A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i'r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a'i enw Jwlius, o fyddin Augustus.
2
Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.
3
A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd.
4
Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.
5
Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia.
6
Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i'r Ital, a'n gosododd ni ynddi.
7
Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai'r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone.
8
Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.
9
Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,
10
Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.
11
Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.
12
A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a'r gogledd‐orllewin.
13
A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt‐hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.
14
Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.
15
A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu'r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda'r gwynt.
16
Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad:
17
Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu'r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.
18
A ni'n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong;
19
A'r trydydd dydd bwriasom â'n dwylo'n hunain daclau'r llong allan.
20
A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan.
21
Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a'r golled.
22
Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig.
23
Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli,
24
Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi.
25
Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi.
26
Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.
27
Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o'r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad;
28
Ac wedi iddynt blymio, hwy a'i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwryd.
29
Ac a hwy'n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.
30
Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,
31
Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.
32
Yna y torrodd y milwyr raffau'r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.
33
A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.
34
Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.
35
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.
36
Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd.
37
Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.
38
Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw'r gwenith allan i'r môr.
39
A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.
40
Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.
41
Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.
42
A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.
43
Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tir:
44
Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.
← Chapter 26
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 28 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28