bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 16
Acts 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
1
Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a'i dad oedd Roegwr:
2
Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.
3
Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerth ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.
4
Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy'r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw'r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a'r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem.
5
Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd.
6
Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu'r gair yn Asia;
7
Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt.
8
Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas.
9
A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni.
10
A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.
11
Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis;
12
Ac oddi yno i Philipi, yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai.
13
Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.
14
A rhyw wraig a'i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.
15
Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i'n ffyddlon i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymhellodd ni.
16
A digwyddodd, a ni'n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth.
17
Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
18
A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.
19
A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant hwy i'r farchnadfa, at y llywodraethwyr;
20
Ac a'u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae'r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni,
21
Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr.
22
A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a'r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail.
23
Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel;
24
Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.
25
Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a'r carcharorion a'u clywsant hwy.
26
Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau'r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
27
A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau'r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o'r carcharorion ymaith.
28
Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll.
29
Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30
Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?
31
A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.
32
A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.
33
Ac efe a'u cymerth hwy yr awr honno o'r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.
34
Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.
35
A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny.
36
A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch.
37
Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau'n Rhufeinwyr, hwy a'n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.
38
A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.
39
A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a'u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o'r ddinas.
40
Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cysurasant, ac a ymadawsant.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28