bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 19
Acts 19
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
1
Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy'r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion,
2
Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân.
3
Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4
A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu.
5
A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu.
6
Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant.
7
A'r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg.
8
Ac efe a aeth i mewn i'r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw.
9
Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus.
10
A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu.
11
A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul:
12
Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a'r clefydau a ymadawai â hwynt, a'r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.
13
Yna rhai o'r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.
14
Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn.
15
A'r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi?
16
A'r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig.
17
A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.
18
A llawer o'r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.
19
Llawer hefyd o'r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a'u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a'i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian.
20
Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.
21
A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd.
22
Ac wedi anfon i Facedonia ddau o'r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
23
A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.
24
Canys rhyw un a'i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwyr;
25
Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni:
26
Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i'r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo.
27
Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a'r byd yn ei haddoli.
28
A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana'r Effesiaid.
29
A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i'r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul.
30
A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo.
31
Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i'r orsedd.
32
A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a'r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd.
33
A hwy a dynasant Alexander allan o'r dyrfa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.
34
Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana'r Effesiaid.
35
Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu'r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli'r dduwies fawr Diana, a'r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter?
36
A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll.
37
Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi.
38
Od oes gan hynny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i'w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.
39
Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny.
40
Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.
41
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28