bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 22
Acts 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
1
Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron.
2
(A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,)
3
Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.
4
A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd.
5
Megis ag y mae'r archoffeiriad yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i'w cosbi.
6
Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o'r nef ddisgleirio o'm hamgylch.
7
A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid?
8
A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
9
Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf.
10
Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.
11
A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus.
12
Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a'r oeddynt yn preswylio yno,
13
A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.
14
Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.
15
Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a welaist ac a glywaist.
16
Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.
17
A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg;
18
A'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.
19
A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:
20
A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.
22
A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â'r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.
23
Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24
Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.
25
Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd?
26
A phan glybu'r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw'r dyn hwn.
27
A'r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.
28
A'r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i'r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.
29
Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a'r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.
30
A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r archoffeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28