bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 23
Acts 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
1
A phaul, yn edrych yn graff ar y cyngor, a ddywedodd, Ha wŷr frodyr, mi a wasanaethais Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddiw.
2
A'r archoffeiriad Ananeias a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef ar ei enau.
3
Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu'r ddeddf yn peri fy nharo i?
4
A'r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw?
5
A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.
6
A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.
7
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws.
8
Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o'r ddau.
9
A bu llefain mawr: a'r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw.
10
Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r milwyr fyned i waered, a'i gipio ef o'u plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.
11
Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12
A phan aeth hi yn ddydd, rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.
13
Ac yr oedd mwy na deugain o'r rhai a wnaethant y cynghrair hwn.
14
A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.
15
Yn awr gan hynny hysbyswch gyda'r cyngor i'r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.
16
Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.
17
A Phaul a alwodd un o'r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i'w fynegi iddo.
18
Ac efe a'i cymerth ef, ac a'i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt.
19
A'r pen‐capten a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w fynegi i mi?
20
Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.
21
Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.
22
Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.
23
Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nos;
24
A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw.
25
Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma:
26
Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch.
27
Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â'i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
28
A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dygais ef i waered i'w cyngor hwynt:
29
Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.
30
A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.
31
Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nos i Antipatris.
32
A thrannoeth, gan adael i'r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell:
33
Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi'r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.
34
Ac wedi i'r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;
35
Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28