bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 13
Acts 13
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
1
Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2
Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
3
Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
4
A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.
5
A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
6
Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Bar‐iesu;
7
Yr hwn oedd gyda'r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw.
8
Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.
9
Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef,
10
Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd?
11
Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law.
12
Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
13
A Phaul a'r rhai oedd gydag ef a aethant ymaith o Paffus, ac a ddaethant i Perga yn Pamffylia: eithr Ioan a ymadawodd oddi wrthynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
14
Eithr hwynt‐hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i'w synagog ar y dydd Saboth, ac a eisteddasant.
15
Ac ar ôl darllen y gyfraith a'r proffwydi, llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, Ha wŷr, frodyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.
16
Yna y cyfododd Paul i fyny, a chan amneidio â'i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a'r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch.
17
Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
18
Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.
19
Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.
20
Ac wedi'r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd.
21
Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
22
Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.
23
O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu:
24
Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25
Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
26
Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27
Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.
28
Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef.
29
Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a'r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a'i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.
30
Eithr Duw a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw:
31
Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.
32
Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi'r Iesu:
33
Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais.
34
Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.
35
Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth.
36
Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth:
37
Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth.
38
Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau:
39
A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt.
40
Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi;
41
Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
42
A phan aeth yr Iddewon allan o'r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu'r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf.
43
Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o'r Iddewon ac o'r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.
44
A'r Saboth nesaf, yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw.
45
Eithr yr Iddewon, pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrthddywedyd a chablu.
46
Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd.
47
Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, Mi a'th osodais di yn oleuni i'r Cenhedloedd, i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.
48
A'r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant.
49
A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy'r holl wlad.
50
A'r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.
51
Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium.
52
A'r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o'r Ysbryd Glân.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28