bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 26
Acts 26
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
1
Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddiffynnodd ei hun.
2
Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:
3
Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â'r holl ddefodau a'r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.
4
Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd o'r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;
5
Y rhai a'm hadwaenent i o'r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead.
6
Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu:
7
I'r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.
8
Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?
9
Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.
10
Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o'r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.
11
Ac ym mhob synagog yn fynych mi a'u cosbais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.
12
Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid,
13
Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.
14
Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.
15
Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
16
Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod di yn weinidog ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;
17
Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,
18
I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy'r ffydd sydd ynof fi.
19
Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol:
20
Eithr mi a bregethais i'r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.
21
O achos y pethau hyn yr Iddewon a'm daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â'u dwylo eu hun.
22
Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai'r proffwydi a Moses y delent i ben;
23
Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.
24
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.
25
Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.
26
Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.
27
O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i'r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.
28
Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.
29
A Phaul a ddywedodd, Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a'r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.
30
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:
31
Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw'r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.
32
Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28