bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 24
Acts 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
1
Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a'r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul.
2
Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,
3
Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch.
4
Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau.
5
Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn ben ar sect y Nasareniaid:
6
Yr hwn a amcanodd halogi'r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.
7
Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni,
8
Ac a archodd i'w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.
9
A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.
10
A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.
11
Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.
12
Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:
13
Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'u plegid.
14
Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi:
15
A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae'r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion ac i'r anghyfiawnion.
16
Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.
17
Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i'm cenedl, ac offrymau.
18
Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.
19
Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.
20
Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;
21
Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y'm bernir heddiw gennych.
22
Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i'r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.
23
Ac efe a archodd i'r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o'r eiddo ef i'w wasanaethu, nac i ddyfod ato.
24
Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.
25
Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.
26
A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.
27
Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28