bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 18
Acts 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
1
Ar ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Gorinth.
2
Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a'i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt.
3
Ac, oherwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyda hwynt, ac a weithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.)
4
Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.
5
A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.
6
A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.
7
Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r synagog.
8
A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.
9
A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw:
10
Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.
11
Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.
12
A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawdle,
13
Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf.
14
Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi:
15
Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn.
16
Ac efe a'u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle.
17
A'r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o'r pethau hynny.
18
Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned.
19
Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a'u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i'r synagog, ac a ymresymodd â'r Iddewon.
20
A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe:
21
Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae'n anghenraid i mi gadw'r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus.
22
Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.
23
Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
24
Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus.
25
Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.
26
A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.
27
A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i'w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras;
28
Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28