bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Acts 17
Acts 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
1
Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i'r Iddewon.
2
A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o'r ysgrythurau,
3
Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw'r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.
4
A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o'r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.
5
Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.
6
A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o'r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu'r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd;
7
Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae'r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.
8
A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn.
9
Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a'r lleill, hwy a'u gollyngasant hwynt ymaith.
10
A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon.
11
Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly.
12
Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o'r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.
13
A phan wybu'r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi'r dyrfa.
14
Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i'r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.
15
A chyfarwyddwyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.
16
A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.
17
Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â'r Iddewon, ac â'r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.
18
A rhai o'r philosophyddion o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai'r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu'r Iesu, a'r atgyfodiad, iddynt.
19
A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw'r ddysg newydd hon, a draethir gennyt?
20
Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai'r pethau hyn fod.
21
(A'r holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)
22
Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol:
23
Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.
24
Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo:
25
Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.
26
Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt;
27
Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom:
28
Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.
29
Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.
30
A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau:
31
Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32
A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn.
33
Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.
34
Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28