bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 10
1 Corinthians 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
1
Canys nid ewyllysiwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i'n tadau oll fod dan y cwmmwl, ac i'r oll o honynt fyned trwy y mor,
2
ac i'r oll o honynt gymmeryd eu bedyddio i Moses yn y cwmmwl ac yn y mor;
3
ac i bawb fwytta yr un bwyd ysprydol,
4
ac i bawb yfed yr un ddiod ysprydol; canys hwy a yfasant o Graig ysprydol a'u canlynai; a'r Graig oedd Crist.
5
Eithr ni bu Duw foddlawn i'r rhan fwyaf o honynt, canys dymchwelwyd hwynt yn y diffaethwch.
6
A'r pethau hyn a ddaethant yn siamplau i ni, fel na byddom yn chwennychwyr pethau drwg, fel y chwennychasant hwy.
7
Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megys rhai o honynt hwy, fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwytta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu ”.
8
Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
9
Ac na themtiwn yr Arglwydd, megys ag y temtiodd rhai o honynt hwy, ac y dinystriwyd hwy gan y seirph.
10
Ac na rwgnechwch, megys y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'u dinystriwyd gan y Dinystrydd.
11
A'r pethau hyn ar wedd siamplau a ddygwyddasant iddynt hwy, ac a ysgrifennwyd er cynghor i ni, ar y rhai y mae terfynau yr oesoedd wedi dyfod.
12
Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13
Nid ymaflodd ynoch demtasiwn ond un dynol; eithr ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn y ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
14
O herwydd paham, fy anwyliaid, ffowch oddiwrth eilun‐addoliaeth.
15
Fel wrth rai synwyrol yr wyf yn dywedyd; bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.
16
Cwpan y Fendith yr hwn a fendigwn, onid cymmun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid corph cymmun Crist ydyw?
17
Oblegyd mai un bara sydd, nyni, y rhai ydym yn llawer, ydym un corph; canys yr ydym oll yn cyfrannogi o'r un bara.
18
Edrychwch ar yr Israel yn ol y cnawd: onid yw y rhai sydd yn bwytta yr ebyrth yn gyfrannogion o'r allor?
19
Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod y peth a aberthwyd i eilunod yn rhywbeth, neu bod eilun yn rhywbeth?
20
Ond, dywedaf, fod y pethau y mae y Cenhedloedd yn aberthu yn cael eu haberthu i gythreuliaid ac nid i Dduw; ac ni fynnaf i chwi fod mewn cymmundeb â'r cythreuliaid:
21
ni ellwch yfed o gwpan yr Arglwydd a chwpan y cythreuliaid; ni ellwch gyfrannogi o fwrdd yr Arglwydd a bwrdd cythreuliaid.
22
Neu ai gyrru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?
23
Pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn lleshâu; pob peth sydd yn ganiataol, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
24
Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond yr eiddo y dyn arall.
25
Pob peth a werthir yn y gigfa, bwyttêwch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod;
26
canys eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder.
27
Os gwna neb o'r rhai digred eich gwahodd, ac ewyllysio o honoch fyned, bwyttêwch bob peth a roddir ger eich bron, heb ofyn dim er mwyn cydwybod.
28
Eithr os dywed neb wrthych, Peth a aberthwyd yw hwn, na fwyttêwch, er mwyn yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod,;
29
a chydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti dy hun, eithr yr eiddo y llall; canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?
30
Os myfi gyda diolch a gyfrannogaf, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn diolch am dano?
31
Pa un bynnag gan hynny ai bwytta yr ydych neu yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant Duw.
32
Byddwch ddidramgwydd i Iuddewon a Groegiaid, ac i eglwys Dduw,
33
fel yr wyf finnau ym mhob peth yn rhyngu bodd i bawb, heb geisio fy llês fy hun, ond eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16