bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 11
1 Corinthians 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Byddwch efelychwyr o honof fi, megys yr wyf finnau hefyd o Grist.
2
Ac yr wyf yn eich canmol,, gan eich bod yn fy nghofio i ym mhob peth, ac yn dal y traddodiadau fel y traddodais hwynt i chwi.
3
Eithr ewyllysiaf i chwi wybod mai pen pob gwr yw Crist; a phen y wraig yw y gwr; a phen Crist yw Duw.
4
Pob gwr yn gweddio ac yn prophwydo, a chanddo beth am ei ben, sydd yn dianrhydeddu ei ben;
5
eithr pob gwraig yn gweddio ac yn prophwydo, a'i phen heb orchudd, sydd yn dianrhydeddu ei phen: canys yr un peth yw â'r un sydd wedi ei heillio.
6
Canys os na bydd gwraig yn gwisgo gorchudd, cneifier hi hefyd; eithr os cywilyddus i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisged orchudd.
7
Canys gwr yn wir ni ddylai wisgo gorchudd am ei ben, am ei fod o'r dechreu yn ddelw a gogoniant Duw;
8
ond y wraig yw gogoniant y gwr; canys nid yw y gwr o'r wraig ond y wraig o'r gwr;
9
canys ni chrewyd y gwr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gwr:
10
o herwydd hyn dylai y wraig fod ganddi arwydd awdurdod ar ei phen, o herwydd yr angelion.
11
Er hynny, nid yw gwraig ar wahân a gwr, na gwr ar wahân a gwraig, yn yr Arglwydd;
12
canys yr un wedd ag y mae y wraig o'r gwr, felly hefyd y mae y gwr trwy y wraig; eithr pob peth sydd o Dduw.
13
Bernwch chwi ynoch eich hunain, ai gweddus yw i wraig weddio ar Dduw heb orchudd?
14
Onid yw hyd y nod naturiaeth ei hun yn eich dysgu chwi, os bydd gwr â gwallt hir, gwarthrudd yw iddo?
15
Eithr os gwraig a fydd â gwallt hir, gogoniant yw iddi; canys ei hir‐wallt sydd wedi ei roddi yn lle gorchudd iddi.
16
Ond os ymddengys neb yn ymryssongar, nid oes gennym ni y fath arfer, na chan eglwys Dduw.
17
Eithr wrth orchymyn hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd nid er gwell, ond er gwaeth;
18
canys, yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr wyf yn clywed fod ymraniadau yn eich plith, ac mewn rhan yr wyf yn ei gredu.
19
Canys rhaid fod hefyd bleidiau yn eich mysg, fel y delo y rhai cymmeradwy yn amlwg yn eich plith chwi.
20
Pan fyddoch gan hynny yn dyfod ynghyd i'r un lle, nid yw i fwytta Swper yr Arglwydd;
21
canys yn y bwytta, y mae pob un yn cymmeryd o flaen arall ei swper ei hun; ac y mae un yn newynog, ac arall yn feddw.
22
Yn wir, onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? neu ai dirmygu yr ydych eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.
23
Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd, yr hyn hefyd a draddodais i chwi: Bod i'r Arglwydd Iesu, yn y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara;
24
ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd,, Hwn yw fy nghorph, yr hwn sydd drosoch: gwnewch hyn er côf am danaf.
25
Yr un modd hefyd y cwpan, ar ol swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfammod Newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynnifer gwaith bynnag yr yfoch, er côf am danaf.
26
Canys cynnifer gwaith bynnag y bwyttâoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan, y cyhoeddwch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo.
27
O ganlyniad, pwy bynnag a fwyttâo y bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd mewn modd annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.
28
Eithr profed dyn ef ei hun, ac felly bwyttâed o'r bara, ac yfed o'r cwpan.
29
Canys yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, pan nad yw yn iawn‐farnu y corph.
30
O herwydd hyn y mae llawer yn eich plith yn weiniaid ac yn dihoeni, ac amryw yn huno;
31
ond pe iawn‐farnem ein hunain, ni'n bernid.
32
Ond wrth gael ein barnu gan yr Arglwydd y'n ceryddir, fel na'n collfarner gyda'r byd.
33
Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch eich gilydd.
34
Os bydd newyn ar neb, bwyttâed yn ei dŷ, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16