bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 16
1 Corinthians 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Yn awr ynghylch y casgliad tuag at y saint; fel y trefnais yn fanwl i eglwysi Galatia, felly hefyd gwnewch chwithau.
2
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, gosoded pob un o honoch heibio gartref, gan roddi i gadw fel y llwyddodd, fel na wneler casgliadau pan ddelwyf.
3
A phan gyrhaeddwyf, pa rai bynnag a gymmeradwyoch, â llythyrau y danfonaf hwynt i ddwyn eich rhodd i Jerusalem;
4
ac os teilwng y peth i minnau fyned hefyd, hwy a änt gyda mi.
5
Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia; canys trwy Macedonia yr wyf yn myned;
6
a dichon yr arhosaf gyda chwi, neu y gauafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf;
7
canys nid ewyllysiaf eich gweled yn awr ar fy hynt, oblegyd yr wyf yn gobeithio yr arhosaf gryn amser gyda chwi, os caniata yr Arglwydd.
8
Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Pentecost;
9
canys drws mawr ac effeithiol a agorwyd i mi, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.
10
Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddiofn gyda chwi, canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau hefyd.
11
Am hynny, na ddiystyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo attaf fi, canys yr wyf fi yn ei ddysgwyl ef gyda'r brodyr.
12
Ond am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef i ddyfod attoch gyda'r brodyr, ond nid oedd ei ewyllys o gwbl i ddyfod yn awr, ond daw pan gaiff gyfleusdra.
13
Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhêwch;
14
gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.
15
Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymroddi i wasanaeth y saint),
16
fod o honoch chwithau hefyd fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cyd‐weithio ac yn llafurio.
17
Ac yr wyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas a Phortunatus ac Achaichus, canys yr hyn oedd eisieu ar eich rhan chwi hwy a gyflawnasant;
18
canys hwy a adlonasant fy yspryd i a'ch eiddo chwithau; cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.
19
Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch chwi. Y mae Acwila a Phrisca yn eich cyfarch yn wresog yn yr Arglwydd, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt.
20
Y mae y brodyr oll yn eich cyfarch. Cyferchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.
21
Fy nghyfarchiad i Paul â'm llaw fy hun.
22
Os oes neb nad yw yn hoffi yr Arglwydd, bydded anathema. Maran atha [‘Arglwydd, Tyred’].
23
Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi.
24
Fy nghariad i fyddo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16