bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 4
1 Corinthians 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
1
Felly cyfrifed dyn nyni megys gweinidogion Crist, a goruchwylwyr dirgeledigaethau Duw.
2
A hyn felly, ym mhellach, y mae yn ofynol mewn goruchwylwyr gael un yn ffyddlawn.
3
Eithr i mi y mae o'r pwys lleiaf i gael fy ngosod ar brawf gennych chwi neu gan lys dynol; na, nid wyf yn gosod fy hun ar brawf.
4
Canys nid wyf yn ymwybodol o ddim yn erbyn fy hun; etto, nid trwy hyn yr wyf wedi fy nghyfiawnhâu; eithr yr hwn sydd yn fy mhrofi i yw yr Arglwydd.
5
Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a ddwg i'r goleu bethau dirgel y tywyllwch, ac a wna yn amlwg fwriadau y calonnau; ac yna y bydd i bob un ei glod oddiwrth Dduw.
6
Yn awr y pethau hyn, frodyr, a gymhwysais trwy ddull ffugyrol attaf fy hun ac Apollos, er eich mwyn chwi, fel ynom ni y dysgoch beidio myned tuhwnt y pethau a ysgrifennwyd, fel na byddo un o honoch yn ymchwyddo ar ran y naill yn erbyn y llall.
7
Canys pwy sydd yn peri gwahaniaeth rhyngot ti ac eraill? a pha beth sydd gennyt ar nas derbyniaist? ond, yn wir, os derbyn wnaethost, paham yr wyt yn ymffrostio megys pe buasit heb dderbyn?
8
Eisoes yr ydych chwi wedi eich gor‐ddigoni, eisoes yr ymgyfoethogasoch, ar wahân â ni chwi aethoch yn frenhinoedd. Ac o na baech yn wir yn frenhinoedd fel y caem ninnau hefyd fod yn frenhinoedd gyda chwi.
9
Canys yr wyf yn tybied fod Duw yn ein harddangos ni yr Apostolion yn gyhoeddus yn olaf, fel rhai wedi eu dedfrydu i farwolaeth: oblegyd nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion ac hefyd i ddynion.
10
Yr ydym ni yn ffyliaid Crist, ond yr ydych chwi yn ddoethion yng Nghrist; yr ydym ni yn weiniaid, ond yr ydych chwi yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygedig;
11
hyd y nod yr awr hon yr ydym mewn newyn a syched, ac yn fyr o ddillad, ac yn cael ein dyrnodio, ac heb drigle sefydlog gennym;
12
ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â'n dwylaw ein hunain; pan y'n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y'n herlidir, yr ydym yn dyoddef yn amyneddgar;
13
pan y'n enllibir, yr ydym yn ymbilio; fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni a sorod pob dim hyd yn awr.
14
Nid gan eich cywilyddio yr wyf yn ysgrifennu y pethau hyn; eithr eich cynghori yr wyf fel fy mhlant anwyl.
15
Canys pe byddai i chwi ddeng mil o warchodwyr yng Nghrist, etto nid oes i chwi nemawr o dadau; canys yng Nghrist Iesu trwy yr efengyl y cenhedlais i chwi.
16
Am hynny yr wyf yn attolwg i chwi, byddwch efelychwyr i mi.
17
O herwydd hyn yr anfonais Timotheus attoch, yr hwn yw fy mhlentyn anwyl a ffyddlawn yn yr Arglwydd, yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, hyd y nod fel ag yr wyf yn dysgu ym mhob man ym mhob eglwys.
18
Yn awr, y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i yn dyfod attoch chwi;
19
eithr mi a ddeuaf attoch yn fuan, os yr Arglwydd a'i myn; a deuaf i wybod, nid ymadrodd y rhai chwyddedig, ond eu gallu.
20
Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw, eithr mewn gallu.
21
Beth a fynnwch chwi, ai dyfod o honof attoch chwi â gwialen, ynte mewn cariad, ac yspryd addfwynder?
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16