bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 6
1 Corinthians 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
1
A feiddia un o honoch, a chanddo fater yn erbyn y llall ymgyfreithio o flaen y rhai annghyfiawn, ac nid o flaen y saint?
2
Neu oni wyddoch y barna y saint y byd? Ac os bernir y byd o'ch blaen chwi, a ydych chwi yn annheilwng i eistedd mewn barn ar y pethau mwyaf dibwys?
3
Oni wyddoch y barnwn ni angelion, heb ddweyd dim yn wir am bethau y bywyd hwn?
4
Os oes gennych gan hynny lysoedd perthynol i bethau y bywyd hwn, y rhai a gyfrifir yn ddim yn yr eglwys, gosodwch y rhai hyn drostynt.
5
Er eich cywilydd yr wyf yn llefaru wrthych. Ai felly nad oes yn eich mysg neb doeth, yr hwn a all benderfynnu rhwng brodyr,
6
ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny o flaen annghredinwyr?
7
Am hynny, yn wir, y mae ar unwaith yn ddios yn ddiffyg ynoch fod gennych gwynion cyfraith ym mysg eich hunain. Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dyoddef eich cam‐golledu?
8
Ond yn wir yr ydych chwi yn gwneuthur cam ac yn cam‐golledu, a hynny, eich brodyr.
9
Neu ai ni wyddoch na fydd i annghyfiawnion etifeddu Teyrnas Dduw? Na thwyller chwi; ni chaiff na phutteinwyr, nac eilun‐addolwyr, na godinebwyr, na masweddwyr, na gwrryw‐gydwyr,
10
na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na threiswyr, etifeddu Teyrnas Dduw.
11
A hyn fu rhai o honoch chwi; eithr chwi a olchasoch ymaith eich pechodau, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhâwyd, yn enw yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn Yspryd ein Duw ni.
12
Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, ond nid yw pob peth yn addas. Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.
13
Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddiddymma hwn a hwythau. Eithr nid yw y corph i butteindra, ond i'r Arglwydd, a'r Arglwydd i'r corph.
14
Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei allu ef.
15
Oni wyddoch fod eich cyrph yn aelodau Crist? a gymmeraf fi ymaith gan hynny aelodau Crist, a'u gwneyd yn aelodau puttain? na wneler byth!
16
Neu, oni wyddoch fod yr hwn a unir â phuttain yn un corph? Canys y ddau, medd efe, a fyddant un cnawd.
17
Ond yr hwn a unir â'r Arglwydd, un Yspryd yw.
18
Ffowch oddiwrth butteindra. Pob pechod a wnelo dyn, tu allan i'r corph y mae; ond yr hwn sydd yn putteinio sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.
19
Neu, oni wyddoch fod eich corph yn Gyssegr yr Yspryd Glân yr hwn sydd ynoch, yr hwn sydd gennych oddi wrth Dduw? ac nid ydych yn eiddoch eich hunain,
20
canys â gwerth y'ch prynwyd; gogoneddwch Dduw gan hynny yn eich corph.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
Recommended Reading
Commentary
1 Corinthians Commentaries
→
Devotional
1 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→