bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 7
1 Corinthians 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Yn awr am y pethau yr ysgrifenasoch: Da i ddyn na chyffyrddo â gwraig.
2
Ond o herwydd putteindra, bydded i bob dyn ei wraig ei hun; a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.
3
Taled y gŵr i'r wraig yr hyn sydd ddyledus: a'r un modd hefyd y wraig i'r gŵr.
4
Nid gan y wraig y mae awdurdod ar ei chorph ei hun, ond gan y gŵr; a'r un modd hefyd nid gan y gŵr y mae awdurdod ar ei gorph ei hun, ond gan y wraig.
5
Na cham‐attaliwch oddiwrth eich gilydd, oddi eithr o gydsyniad dros dymhor, fel y galloch gael hamdden i weddi, ac fel y byddoch drachefn ynghyd, fel na themtio Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd,
6
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd mewn ffordd o oddefiad ac nid mewn ffordd o orchymyn.
7
Eithr mi a ewyllysiwn fod pob dyn fel mi fy hun. Eithr pob un sydd ganddo ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, un yn wir fel hyn, ac arall fel hynny.
8
Ac yr wyf yn dywedyd wrth y rhai di‐briod a'r gwragedd gweddwon: Da iddynt ped arhosent fel myfi.
9
Eithr os na allant ymgadw, priodent: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.
10
Ac i'r rhai priod yr wyf yn gorchymyn — nid myfi, ond yr Arglwydd — Na ymwahaned gwraig oddiwrth ei gŵr
11
(ond os ymwahana, arhosed heb briodi, neu cymmoder hi a'i gŵr); a gŵr, na ollynged ymaith ei wraig.
12
Eithr wrth y lleill yr wyf fi yn dywedyd, nid yr Arglwydd, Os bydd rhyw frawd a chanddo wraig ddigred, a hithau yn cytuno i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith:
13
a gwraig sydd ganddi ŵr digred, ac yntau yn cytuno i drigo gyda hi, na ollynged ymaith ei gŵr.
14
Canys y mae y gŵr digred wedi ei sancteiddio yn y wraig, a'r wraig ddigred wedi ei sancteiddio yn y brawd: pe amgen, yn wir eich plant fyddent aflan, eithr yn awr sanctaidd ydynt.
15
Ond os y digred a ymwahana, ymwahaned: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth yn y cyfryw amgylchiadau: ond mewn heddwch y mae Duw wedi ein galw ni.
16
Canys pa fodd y gwyddost, O wraig, os achubi di dy wr? neu pa fodd y gwyddost, O wr, os achubi di dy wraig?
17
Yn unig, fel y mae yr Arglwydd wedi rhannu i bob un, fel y mae Duw wedi galw pob un, felly rhodied. Ac felly yr wyf yn ordeinio yr holl eglwysi.
18
Ai wedi ei enwaedu y galwyd neb? nac ymgeisied fod yn ddienwaededig. Ai mewn dienwaediad y mae neb wedi ei alw? nac enwaeder arno.
19
Yr enwaediad nid yw ddim, a'r dienwaediad nid yw ddim; ond cadw gorchymynion Duw.
20
Pob un yn yr alwedigaeth yn yr hon y galwyd ef, yn hon arhosed.
21
Ai yn gaethwas y'th alwyd? Na ofala: os hefyd y gelli ddyfod yn rhydd, yn hytrach gwna ddefnydd o hynny.
22
Canys yr hwn a alwyd yn yr Arglwydd, pan yn gaethwas, gŵr rhydd yr Arglwydd ydyw. Yr un modd yr hwn a alwyd pan yn rhydd, caethwas Crist ydyw.
23
Er gwerth y'ch prynwyd; nac ewch yn gaethweision dynion.
24
Pob un yn yr hyn y galwyd ef, frodyr, yn hyn arhosed gyda Duw.
25
Yn awr, ynghylch y gwyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd; ond barn yr wyf yn roddi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn.
26
Am hynny yr wyf yn tybied fod hyn yn dda o achos yr angenrhaid presennol, gan ei bod yn dda i ddyn fod felly.
27
A ydwyt yn rhwym i wraig? Na chais ollyngiad. A ydwyt yn rhydd oddiwrth wraig? Na chais wraig.
28
Ac os priodi hefyd, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: er hynny blinder yn y cnawd a gä y cyfryw rai: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
29
A hynny yr wyf yn ei ddywedyd, frodyr, y mae y tymhor wedi ei gyfyngu, fel o hyn allan y bydd y rhai sydd â gwragedd ganddynt megys pe byddent hebddynt;
30
a'r rhai a wylant megys heb wylo; a'r rhai a lawenhânt megys heb lawenhâu; a'r rhai a brynant megys heb ddal meddiant yn dŷn;
31
a'r rhai a ddefnyddiant y byd megys heb ei or‐ddefnyddio, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
32
A mi a ddymunwn i chwi fod yn ddibryder. Yr hwn sydd yn ddi‐briod sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd:
33
eithr yr hwn a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y boddlona ei wraig; ac y mae efe wedi ei rannu.
34
A'r wraig sydd ddi‐briod a'r wyryf sydd bryderus am bethau yr Arglwydd, fel y byddo sanctaidd yn y corph ac yn yr Yspryd hefyd; ond yr hon a briododd sydd bryderus am bethau y byd, pa wedd y gall foddloni ei gŵr.
35
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd er lleshâd i chwi eich hunain; nid fel y bwriwyf fagl am danoch, eithr er mwyn yr hyn sydd weddaidd a dyfal-lynu wrth yr Arglwydd heb gythrudd.
36
Ond os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd at y wyryf, os bydd o oedran addfed, a bod angenrhaid gwneuthur felly, gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodent.
37
Ond yr hwn sydd yn sefyll yn gadarn yn ei galon, heb angenrhaid arno, ond sydd ganddo awdurdod ar ei ewyllys ei hun, ac a benderfynnodd hyn yn ei galon ei hun, i warchod dros ei wyryf ei hun, efe a wna yn dda.
38
Ac felly y mae yr hwn sydd yn rhoddi ei wyryf ei hun yn briod yn gwneuthur yn dda; a gwna yr hwn nad yw yn ei rhoddi yn briod yn well.
39
Y mae gwraig yn rhwym tra fyddo byw ei gŵr; ond o bydd ei gŵr wedi huno, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno, yn unig yn yr Arglwydd.
40
Ond dedwyddach yw os erys fel y mae, yn ol fy marn i: ac yr wyf yn tybied fod gennyf hefyd Yspryd Duw.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
Recommended Reading
Commentary
1 Corinthians Commentaries
→
Devotional
1 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→