bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 15
1 Corinthians 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
1
Ac yr wyf yn gwneyd yn hyspys i chwi, frodyr, yr efengyl a efengylais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, yn yr hon hefyd yr ydych yn sefyll,
2
trwy yr hon hefyd yr ydych gadwedig, os ydych yn dal gafael yn yr hyn a efengylais i chwi, oddieithr i chwi gredu yn ofer.
3
Canys mi a draddodais i chwi ym mhlith y pethau cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau, yn ol yr Ysgrythyrau;
4
a'i gladdu; a'i fod wedi cael ei gyfodi y trydydd dydd, yn ol yr Ysgrythyrau;
5
ac ymddangos o hono i Cephas; yna i'r Deuddeg;
6
wedi hynny, efe a ymddangosodd i fwy na phum' cant o frodyr ar un waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yn awr; eithr rhai a hunasant.
7
Wedi hynny yr ymddangosodd i Iago; yna i'r apostolion oll.
8
Ac yn ddiweddaf o'r cwbl, megys i'r un annhymig, yr ymddangosodd hefyd i mi;
9
canys myfi yw y lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Crist.
10
Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer, eithr mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; etto nid myfi, ond gras Duw gyda mi.
11
Pa un bynnag gan hynny ai myfi ai hwynt hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
12
Ac os pregethir Crist ei fod wedi ei gyfodi o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi nad oes adgyfodiad y meirw?
13
Eithr os nad oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith;
14
ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yn wir yw ein pregethiad ni, ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.
15
Ac fe'n ceir hyd y nod yn au-dystion i Dduw, canys ni a dystiasom am Dduw ddarfod iddo gyfodi Crist, yr hwn nis cyfododd efe, os yn wir, y meirw ni chyfodir.
16
Canys os y meirw ni chyfodir, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith;
17
ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, diwerth yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau;
18
yn wir hefyd y rhai a hunasant yng Nghrist a gyfrgollwyd.
19
Os yn unig yn y bywyd hwn yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, truenusaf o bob dynion ydym ni.
20
Eithr yn awr y mae Crist wedi ei gyfodi oddiwrth y meirw, blaenffrwyth y rhai a hunasant.
21
Canys gan mai trwy ddyn y mae marwolaeth, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw.
22
Canys megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn y Crist y bywhêir pawb.
23
Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; yna y rhai ydynt eiddo Crist yn ei Ddyfodiad ef.
24
Yna y diwedd, pa bryd bynnag y rhoddo efe i fyny y deyrnas i Dduw a'r Tâd, pan fydd wedi diddymmu pob llywodraeth, a phob awdurdod a gallu;
25
canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed.
26
Y gelyn diweddaf a ddiddymmir yw Angau.
27
Canys pob peth a ddarostyngodd efe dan ei draed ef: a phan ddywedo fod pob peth wedi ei ddarostwng, amlwg yw y gadewir allan yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo.
28
A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun a ddarostyngir i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.
29
Os amgen beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir o gwbl? paham hefyd y bedyddir hwy drostynt?
30
Paham hefyd yr ydym ninnau mewn perygl bob awr?
31
Yr wyf yn ardystio yn enw fy ymffrost ynoch, frodyr, yr hwn sydd gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd, yr wyf yn marw beunydd.
32
Os yn ol dull dyn yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi? Oni chyfodir y meirw, bwyttâwn ac yfwn; canys yfory marw yr ydym.
33
Na cham-arweinier chwi: y mae cwmpeini drwg yn llygru moesau da.
34
Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys nid oes gan rai wybodaeth o Dduw: er cywilydd i chwi yr wyf yn llefaru.
35
Eithr dywed rhyw un, Pa fodd y codir y meirw? ac a pha fath gorph y deuant?
36
O ddyn anneallus, yr hyn yr wyt ti yn ei hau ni fywhêir oni bydd farw.
37
A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr wyt yn ei hau, ond gronyn noeth, efallai o wenith, neu ryw un o'r hadau eraill;
38
eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph fel yr ewyllysiodd efe, ac i bob un o'r hadau gorph o'i eiddo ei hun.
39
Nid yw pob cnawd yr un cnawd; eithr un yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, ac arall yw cnawd adar, ac arall yw cnawd pysgod.
40
Y mae hefyd gyrph nefol a chyrph daearol; ond gwahanol yw gogoniant y rhai nefol, a gwahanol yw gogoniant y rhai daearol.
41
Un yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lleuad, ac arall yw gogoniant y sêr; canys y mae seren yn gwahaniaethu oddiwrth seren mewn gogoniant.
42
Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: heuir ef mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth;
43
heuir mewn ammharch, cyfodir mewn gogoniant; heuir mewn gwendid, cyfodir mewn gallu;
44
heuir yn gorph anianol, cyfodir yn gorph ysprydol.Os oes corph anianol, y mae hefyd gorph ysprydol.
45
Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhâu.
46
Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol, ac wedi hynny, yr ysprydol.
47
Y dyn cyntaf sydd o'r ddaear, yn ddaearol; yr ail ddyn sydd o'r nef.
48
Yn y cyfryw fodd ag yw y daearol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y rhai daearol; ac yn y cyfryw fodd ag yw y nefol, yn y cyfryw fodd hefyd y mae y nefol;
49
ac megys y dygasom ddelw y daearol, bydded i ni ddwyn hefyd ddelw y nefol.
50
Eithr hyn meddaf, frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.
51
Wele! yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll, eithr ni oll a newidir,
52
mewn moment, mewn tarawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf; canys udgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir;
53
canys rhaid i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb.
54
A phan ddarffo i'r llygradwy hwn ymwisgo âg anllygredigaeth, a'r marwol hwn ymwisgo âg anfarwoldeb, yna y daw i ben yr ymadrodd sydd ysgrifenedig, Llyngcwyd angau mewn buddugoliaeth.
55
Pa le, O angau, dy fuddugoliaeth? Pa le, O angau, dy golyn?
56
Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw y Ddeddf;
57
ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
58
Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diysgog, a helaethion yng ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod nad yw eich llafur yn ofer yn yr Arglwydd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16