bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 5
1 Corinthians 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
1
Adroddir yn ddios fod putteindra yn eich plith, a chyfryw butteindra ar nad yw hyd y nod ym mysg y Cenhedloedd, fod gan un o honoch wraig ei dâd.
2
Ac yr ydych wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y cymmerid o'ch canol yr hwn a wnaeth y weithred hon.
3
Canys myfi yn wir, yn absennol yn y corph, ond yn bresennol yn yr yspryd, wyf eisoes wedi barnu, fel pe bawn bresennol, yr hwn yn y fath fodd a weithredodd hyn,
4
yn enw ein Harglwydd Iesu wedi ymgynnull o honoch ynghyd a'm hyspryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu
5
draddodi y cyfryw un i Satan er dinystyr y cnawd, fel yr achubir yr yspryd yn nydd yr Arglwydd Iesu.
6
Nid da eich ymffrost chwi. Oni wyddoch fod ychydig lefain yn lefeinio yr holl dalp?
7
Certhwch allan yr hen lefain fel y byddoch yn dalp newydd, megys yr ydych yn ddilefeinllyd. Canys ein Pasc ni hefyd a aberthwyd, sef Crist;
8
mewn canlyniad, cadwn ŵyl, nid â hen lefain malais a drygioni, ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.
9
Ysgrifennais attoch yn y llythyr na chyd‐ymgymmysgech â phutteinwyr; —
10
nid na chyd— gymmysgech o gwbl â phutteinwyr y byd hwn, neu y rhai trachwantus a threisgar, neu eilun‐addolwyr, oblegyd yna byddai rhaid i chwi fyned allan o'r byd;
11
ond yn awr, yr wyf yn ysgrifennu attoch i beidio ag ymgymmysgu, os bydd neb a enwir yn frawd yn butteiniwr, neu yn drachwantus, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddwyn, neu yn dreisgar; gyda'r cyfryw un na ddim cymmaint a bwytta.
12
Canys beth sydd gyda mi i wneyd a barnu y rhai sydd oddi allan? Onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?
13
eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Symmudwch ymaith yr un drygionus o'ch plith eich hunain.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
Recommended Reading
Commentary
1 Corinthians Commentaries
→
Devotional
1 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→