bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 3
1 Corinthians 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
1
A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megys wrth rai ysprydol, eithr wrth fel rhai o gnawd, megys wrth fabanod yng Nghrist.
2
Mi a'ch porthais chwi â llaeth, nid â bwyd sylweddol; canys nid oeddech etto yn gryfion; na, nid ydych hyd y nod yn awr yn gryfion,
3
canys yr ydych etto yn gnawdol: canys tra y mae yn eich plith chwi eiddigedd a chynnen, onid ydych chwi yn gnawdol, ac yn rhodio yn ol dyn?
4
Canys pan ddywed un, Myfi wyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apollos, onid dynion ydych?
5
Pa beth gan hynny yw Apollos? a pha beth yw Paul? Gweinidogion drwy y rhai y credasoch: a phob un fel y rhoddodd yr Arglwydd iddo.
6
Myfi a blennais; Apollos a ddyfrhâodd; eithr Duw oedd yn rhoddi y cynnydd.
7
Felly ynte nid yw yr hwn sydd yn plannu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoddi y cynnydd.
8
Etto, yr hwn sydd yn plannu, a'r hwn sydd yn dyfrhau, un peth ydynt: ond pob un a dderbyn ei wobr ei hun yn ol ei lafur ei hun.
9
Canys cydweithwyr â Duw ydym ni: amaethdir Duw, adeiladwaith Duw ydych chwi.
10
Yn ol gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, fel pen‐adeiladydd medrus myfi a osodais sylfaen; ac y mae arall yn adeiladu arno: ond edryched pob un pa fodd y mae yn adeiladu arni.
11
Canys sylfaen arall ni all neb ei osod heb law yr un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.
12
Ac os yw neb yn adeiladu ar y sylfaen, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl,
13
gwaith pob un a ddaw i'r amlwg; canys y dydd a'i gwna yn eglur, canys mewn tân y mae yn cael ei ddadguddio; a gwaith pob un pa fath ydyw, y tân ei hun a brawf.
14
Os yw gwaith neb yn aros, yr hwn a oruwch‐adeiladodd efe, efe a dderbyn wobr.
15
Os gwaith neb a losgir i'r llawr, efe a golledir: eithr efe ei hun a achubir, ond felly megys trwy dân.
16
Oni wyddoch mai Cyssegr Duw ydych, a bod Yspryd Duw yn trigo ynoch?
17
Os oes neb yn dinystrio Cyssegr Duw, hwnnw Duw a ddinystria; oblegyd Cyssegr Duw sydd sanctaidd, a'r cyfryw ydych chwi.
18
Na thwylled neb ei hun. Od oes neb yn tybied ei fod yn ddoeth yn eich mysg yn y byd hwn, aed yn ffol, fel yr elo yn ddoeth,
19
Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, — Yr hwn sydd yn gafaelu yn y doethion yn eu cyfrwysdra.
20
A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.
21
Mewn canlyniad, na fydded i neb ymffrostio mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi:
22
pa un bynnag ai Paul, ai Apollos, ai Cephas, ai y byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod: pob peth sydd eiddoch chwi;
23
a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16