bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 14
1 Corinthians 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Dylynwch gariad, a byddwch eiddigeddus am ddoniau ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch.
2
Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw, canys nid oes neb yn deall; ond yn yr yspryd y mae yn llefaru dirgeledigaethau.
3
Ond yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, annogaeth, a dyddanwch.
4
Yr hwn sydd yn llefaru â thafod sydd yn adeiladu ei hunan, ond yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn adeiladu yr eglwys.
5
Yn awr mi a ewyllysiwn i'r oll o honoch lefaru â thafodau, ond yn hytrach brophwydo o honoch: a mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo na'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddieithr iddo ddeongli, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth.
6
Ac yn awr, frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa leshâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych mewn ffordd o ddadguddiad, neu wybodaeth, neu brophwydoliaeth, neu athrawiaeth.
7
Hyd y nod pethau heb fywyd, wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, os na roddant wahaniaeth yn y seiniau, pa fodd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn?
8
Canys os yr udgorn hefyd a rydd sain ansicr, pwy a ymbarotoa i ryfel?
9
Felly chwithau hefyd, trwy lefaru â thafod, os na thraethwch ymadrodd hawdd ei ddeall, pa fodd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.
10
Y mae, debygir, gynnifer o rywogaethau o leisiau yn y byd, ac nid oes un yn ddilafar.
11
Os nad wyf gan hynny yn gwybod ystyr y llais, mi a fyddaf i'r hwn sydd yn llefaru yn farbariad, a'r hwn sydd yn llefaru fydd i minnau yn farbariad.
12
Felly chwithau hefyd, gan eich bod yn awyddus am ddoniau ysprydol, ceisiwch er adeiladaeth yr eglwys i ymhelaethu ynddynt.
13
Gan hynny, yr hwn sydd yn llefaru â thafod, gweddïed ar iddo allu deongli.
14
Canys os gweddïaf â thafod, y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.
15
Beth gan hynny? mi a weddïaf â'r yspryd, ac a weddïaf â'r deall hefyd; canaf fawl â'r yspryd, a chanaf fawl â'r deall hefyd.
16
Canys os bendithi â'r yspryd, pa fodd y dywed yr hwn sydd yn llenwi lle yr annghyfarwydd yr Amen ar dy roddi diolch di, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd?
17
Canys tydi yn ddiau wyt yn diolch yn dda, ond y llall nid adeiledir.
18
Yr wyf yn diolch i Dduw fy mod i yn llefaru â thafod yn fwy na chwi oll:
19
ond yn yr eglwys ewyllysiaf yn hytrach lefaru pum gair â'm deall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiynau o eiriau â thafod.
20
O frodyr, na fyddwch blant mewn meddwl, eithr mewn drygioni byddwch fabanod, ond mewn meddwl, byddwch ddynion addfed.
21
Yn y Ddeddf y mae yn ysgrifenedig, Trwy rai o dafodau dyeithr, a thrwy wefusau estroniaid, y llefaraf wrth y bobl hyn, ac hyd y nod felly ni'm gwrandawant, medd yr Arglwydd.
22
Felly, tafodau ydynt er arwydd, nid i'r rhai sydd yn credu, ond i'r rhai digred; eithr prophwydoliaeth, nid i'r rhai digred, ond i'r rhai sydd yn credu.
23
Gan hynny, os daw yr eglwys oll ynghyd i'r un lle, a llefaru o bawb â thafodau, a dyfod o rai annghyfarwydd neu ddigred i mewn, oni ddywedant eich bod allan o'ch pwyll?
24
Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o un digred neu annghyfarwydd i mewn, efe a argyhoeddir gan bawb, gelwir ef i gyfrif gan bawb.
25
Gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly wedi syrthio ar ei wyneb, efe a addola Dduw, gan ddadgan, Yn wir, y mae Duw yn eich plith.
26
Beth yw gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo dafod, y mae ganddo ddeongliad.
27
Gwneler pob peth er adeiladaeth. Os llefara un â thafod, gwneler bob yn ddau, neu o'r mwyaf bob yn dri, a phob un yn ei dro; a deongled un.
28
Eithr os na fydd deonglwr, tawed yn yr eglwys, a llefared wrtho ei hun ac wrth Dduw.
29
A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y lleill.
30
Ac os dadguddir dim i un arall yn eistedd yno, tawed y cyntaf.
31
Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac yr annoger pawb.
32
Ac y mae ysprydoedd prophwydi yn ddarostyngedig i brophwydi.
33
Canys nid yw Duw yn awdwr annhrefn ond tangnefedd.
34
Fel yn holl eglwysi y saint, tawed y gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniateir iddynt hwy lefaru; eithr bydded iddynt fod yn ddarostyngedig, megys hefyd y dywed y Gyfraith.
35
Ac os ewyllysiant ddysgu dim, ymofynant â'u gwŷr eu hunain gartref; oblegyd cywilyddus yw i wraig lefaru yn yr eglwys.
36
Ai oddiwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai attoch chwi yn unig y daeth efe?
37
Os tybia neb ei fod yn brophwyd, neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu attoch, mai gorchymyn yr Arglwydd ydynt.
38
Eithr os yw neb heb wybod, bydded heb wybod.
39
Gan hynny, fy mrodyr, byddwch dra‐awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau.
40
Eithr gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16