bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 8
1 Corinthians 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Yn awr ynghylch y pethau a aberthir i eilunod: Ni a wyddom fod gan bawb o honom wybodaeth. Y mae gwybodaeth yn chwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.
2
Os oes neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr hyd yn hyn fel y dylai wybod;
3
ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adweinir ganddo Ef.
4
Ynghylch bwytta gan hynny o'r pethau a aberthir i eilunod, yr ydym yn gwybod nad oes eilun yn y byd, ac nad oes Duw ond un.
5
Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa un bynnag ai yn y nef ai ar y ddaear, hyd y nod felly mae duwiau lawer ac arglwyddi lawer,
6
etto i ni un Duw sydd, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau erddo ef; ac un Arglwydd, Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7
Ond nid yw y wybodaeth ym mhawb, eithr rhai trwy eu hymgynefino hyd yn awr â'r eilun, a fwyttânt beth fel wedi ei aberthu i eilun; a'u cydwybod hwy, a hi yn wan, a halogir.
8
Yn awr, ni wna bwyd ein cyflwyno i Dduw; os nad ydym yn bwytta, nid ydym mewn eisieu; nac, os ydym yn bwytta, mewn helaethrwydd.
9
Ond edrychwch rhag mewn modd i'ch hawl‐fraint fyned yn dramgwydd i'r gweiniaid.
10
Canys os gwel neb dydi sydd a gwybodaeth gennyt yn eistedd i fwytta yn nheml yr eilun, oni fydd i'w gydwybod ef, ac efe yn wan, ymhyfhâu fel ag i fwytta y pethau a aberthwyd i eilunod?
11
Canys derfydd am y gwan trwy dy wybodaeth di, — y brawd er mwyn yr hwn y bu Crist farw!
12
Eithr pan yr ydych felly yn pechu yn erbyn eich brodyr, a chlwyfo eu cydwybod a hi yn wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.
13
Gan hynny, os bwyd bair dramgwydd i'm brawd, ni fwyttâf fi gig o gwbl yn dragywydd, fel na bo i mi beri tramgwydd i fy mrawd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
Recommended Reading
Commentary
1 Corinthians Commentaries
→
Devotional
1 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→