bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 2
1 Corinthians 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
1
Myfi hefyd, pan ddaethum attoch, frodyr, ni ddaethum gyda godidowgrwydd ymadrodd neu ddoethineb pan yn cyhoeddi i chwi dystiolaeth Duw.
2
Canys ni fernais yn dda i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groeshoelio.
3
A mi a fum gyda chwi mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr.
4
A'm hymadrodd a mater fy mhregethu nid oeddynt yng ngeiriau deniadol doethineb, eithr yn amlygiad yr Yspryd a gallu:
5
fel na byddai eich ffydd chwi yn noethineb dynion, eithr yng ngallu Duw.
6
Yn awr, doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ym mysg y rhai sydd wedi cyrhaedd addfedrwydd: eithr doethineb nid eiddo y byd hwn na llywodraethwyr y byd hwn, y rhai sydd yn cael eu diddymmu.
7
Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, yr hon sydd wedi bod yn guddiedig, yr hon a rag‐ordeiniodd Duw cyn yr oesoedd er ein gogoniant ni:
8
yr hon nid oes neb o lywodraethwyr y byd hwn wedi dyfod i'w hadnabod: canys pes adnabuasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y Gogoniant:
9
Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, Ac na chyfodasant i galon dyn, Y fath bethau a ddarparodd Duw i'r rhai sydd yn ei garu ef.
10
Eithr i nyni y dadguddiodd Duw hwynt trwy yr Yspryd: Canys y mae yr Yspryd yn chwilio pob peth, ië, ddyfnderoedd Duw.
11
Canys pwy ym mhlith dynion a ŵyr bethau y dyn, ond yspryd y dyn yr hwn sydd ynddo? Felly hefyd pethau Duw nid edwyn neb ond Yspryd Duw.
12
Eithr nid yspryd y byd a dderbyniasom ni, eithr yr Yspryd yr hwn sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad‐roddwyd i ni gan Dduw:
13
y rhai hefyd yr ydym yn eu llefaru, nid mewn geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Yspryd, gan gymharu pethau ysprydol â phethau ysprydol.
14
Yn awr, y dyn anianol ni dderbyn y pethau sydd o Yspryd Duw: canys ffolineb ydynt iddo ef; ac nis gall eu gwybod, canys mewn modd ysprydol y profir hwynt.
15
Ond y mae y dyn ysprydol yn profi pob peth, eithr efe nis dygir i brawf gan neb.
16
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, ac a'i cyfarwydda Ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16