bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 9
1 Corinthians 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
1
Onid wyf fi yn rhydd? onid wyf yn Apostol? onid wyf wedi gweled Iesu ein Harglwydd? onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2
Os i eraill nid wyf Apostol, etto yn ddios i chwi yr wyf: canys sêl fy apostoliaeth ydych chwi yn yr Arglwydd.
3
Fy amddiffyniad i i'r rhai sydd yn fy arholi i yw hyn:
4
Onid oes gennym awdurdod i fwytta ac i yfed?
5
Onid oes gennym awdurdod i arwain o amgylch chwaer fel gwraig, yr un modd a'r Apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Cephas?
6
Neu ai myfi yn unig a Barnabas sydd heb gennym awdurdod i fod heb weithio?
7
Pwy sydd yn milwrio un amser ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwytta ei ffrwyth hi? Pwy sydd yn bugeilio praidd, ac nid yw yn bwytta o laeth y praidd?
8
Ai yn ol dyn yr wyf yn llefaru y pethau hyn? neu onid yw y Gyfraith hefyd yn dywedyd hyn?
9
Canys yng Nghyfraith Moses y mae yn ysgrifenedig, Ni rwymi safn ych yn dyrnu. Ai am yr ychain y mae Duw yn gofalu,
10
neu er ein mwyn ni yn hollol y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd, gan mai mewn gobaith y dylai yr arddwr aredig, a'r dyrnwr mewn gobaith o gyfrannogi.
11
Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?
12
Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon arnoch, onid ydym nyni yn hytrach? Etto ni ddefnyddiasom ni yr awdurdod hon, eithr ni a oddefwn bob peth, fel na roddom unrhyw rwystr i efengyl Crist.
13
Oni wyddoch fod y rhai sydd yn ymwneyd â'r pethau cyssegredig yn bwytta o bethau y Deml? y rhai sydd yn gweini ar yr allor, a gydgyfrannogant â'r allor?
14
Felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fyw wrth yr efengyl.
15
Eithr nid wyf fi wedi arfer un o'r pethau hyn; ond nid ysgrifennais y pethau hyn fel y gwnelid yn y modd hyn i mi; canys da i mi farw yn hytrach na'u harfer — ni wna neb fy ymffrost yn ofer.
16
Canys os efengylaf, nid oes i mi ymffrost, canys angenrhaid a osodwyd arnaf; canys gwae sydd i mi, os nad efengylaf.
17
Canys os wyf yn gwneuthur hyn o'm hewyllys fy hun, y mae i mi dâl; ond os nid o'm hewyllys, y mae i mi oruchwyliaeth wedi ei hymddiried.
18
Pa beth gan hynny yw fy nhâl? fel gan efengylu y gwnaf yr efengyl yn ddidraul: fel na ddefnyddiwyf i'r eithaf fy awdurdod yn yr efengyl.
19
Canys a myfi yn rhydd oddiwrth bawb, mi a wnaethum fy hun yn gaethwas i bawb, fel yr ennillwn y rhan fwyaf.
20
Ac i'r Iuddewon mi a fum megys Iuddew, fel yr ennillwn Iuddewon; i'r rhai sydd dan y ddeddf, megys dan ddeddf, a mi fy hun heb fod dan ddeddf, fel yr ennillwn y rhai sydd dan ddeddf;
21
I'r rhai sydd ddiddeddf, megys diddeddf, heb fy mod yn ddiddeddf i Dduw, eithr o fewn cylch deddf Crist, fel yr ennillwn y rhai diddeddf.
22
I'r gweiniaid mi a fum yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. I bawb yr wyf wedi bod yn bob peth, fel ym mhob modd yr achubwn rai.
23
Ac yr wyf yn gwneuthur pob peth er mwyn yr efengyl, fel y byddwyf yn gyd‐gyfrannog o honi.
24
Oni wyddoch am y rhai sydd yn rhedeg yn y rhedeg‐le, eu bod oll yn rhedeg, ond un sydd yn derbyn y wobr? Rhedwch yn y fath fodd, fel y cymmerwch afael ynddi.
25
A phob un sydd yn ymdrechu am dani, ym mhob peth y mae yn ymarfer hunan‐reolaeth: hwynthwy yn wir fel y derbyniont goron lygradwy; eithr nyni, un anllygradwy.
26
Myfi, mewn canlyniad, wyf felly yn rhedeg, nid fel yn ansicr; felly yr wyf yn ymbaffio fel nid yn curo'r awyr.
27
Eithr yr wyf yn cleisio fy nghorph ac yn ei ddwyn i gaethiwed, rhag mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn annghymmeradwy.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
Recommended Reading
Commentary
1 Corinthians Commentaries
→
Devotional
1 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894- (William Edwards)) Study Bible
→