bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
1 Corinthians 12
1 Corinthians 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
1
Ac am ddoniau ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod.
2
Chwi a wyddoch pan oeddych genhedloedd, arweinid chwi ymaith at yr eilunod mudion, ym mha fodd bynnag y'ch arweinid.
3
Gan hynny, yr wyf yn hysbysu i chwi, nad oes neb yn llefaru yn Yspryd Duw yn dywedyd, Anathema yw'r Iesu; ac ni all neb ddywedyd, Iesu sydd Arglwydd, ond yn yr Yspryd Glân.
4
Ac y mae gwahanol fathau o ddoniau, eithr yr un Yspryd;
5
ac y mae gwahanol fathau o weinidogaethau, eithr yr un Arglwydd;
6
ac y mae gwahanol fathau o weithrediadau, ond yr un Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7
Ac i bob un y rhoddir eglurhâd yr Yspryd er lleshâd.
8
Canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddir ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd;
9
i arall, ffydd, yn yr un Yspryd; ac i arall, ddoniau i iachau, yn yr un Yspryd;
10
ac i arall, alluoedd i wneuthur gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, ddirnadaeth o ysprydoedd; ac i arall, mathau o dafodau dyeithr; ac i arall ddeongliad tafodau dyeithr.
11
A'r holl bethau hyn y mae yr un a'r unrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob un ar ei ben ei hun fel yr ewyllysia.
12
Canys fel y mae y corph yn un, a chanddo aelodau lawer, a holl aelodau y corph, a hwy yn llawer, ydynt un corph; felly hefyd y mae Crist.
13
Canys yn wir mewn un Yspryd y bedyddiwyd ni oll i un corph, pa un bynnag ai Iuddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion, a nyni oll a wnaed i yfed o un Yspryd.
14
Canys yn wir y corph nid yw un aelod, eithr llawer.
15
Os dywed y troed, Am nad wyf law, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.
16
Ac os dywed y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph, nid yw, o herwydd hyn, heb fod o'r corph.
17
Pe yr holl gorph fyddai lygad, pa le y byddai y clywed? Pe'r oll fyddai glywed, pa le y byddai yr arogliad?
18
Ond yn awr Duw a osododd yr aelodau bob un o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe.
19
A phe bae yr oll yn un aelod, pa le y byddai y corph?
20
Ond yn awr, llawer yw yr aelodau, eithr un corph.
21
Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt; na thrachefn y pen wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
22
Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph sydd yn ymddangos yn wannach, ydynt angenrheidiol;
23
a'r rhannau o'r corph a dybiwn ni eu bod yn llai anrhydeddus, y rhai hyn a wisgwn âg anrhydedd helaethach; a'r rhannau anhardd a gänt harddwch helaethach;
24
ond ar ein rhannau hardd nid oes angen; eithr Duw a gyd‐dymherodd y corph, gan roddi anrhydedd helaethach i'r rhan oedd ddiffygiol;
25
fel na byddai rhwyg yn y corph, ond fel y byddai gan yr aelodau yr un gofal am eu gilydd.
26
Ac os dyoddef a wna un aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐ddyoddef; neu os gogoneddir aelod, y mae yr holl aelodau yn cyd‐lawenhau.
27
A chwychwi ydych gorph Crist ac aelodau o ran.
28
A rhai, yn wir, a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, prophwydi; yn drydydd, athrawon; yna, galluoedd gwyrthiol; yna, doniau i iachâu; cynnorthwyon; llywodraethau; amryw fathau o dafodau.
29
A yw pawb yn apostolion? a yw pawb yn brophwydi? a yw pawb yn athrawon? a yw pawb yn cyflawni gwyrthiau?
30
A oes gan bawb ddoniau i iachâu? a yw pawb yn llefaru â thafodau? a yw pawb yn deongli?
31
Eithr byddwch eiddigeddus am y doniau mwyaf Ac ym mhellach, yr wyf yn dangos i chwi ffordd sydd dra‐rhagorol.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16