bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 1
Romans 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
1
Paul, gwas Crist Iesu, wedi ei alw i fod yn apostol, wedi ei neillduo i efengyl Duw —
2
yr hon a rag‐addawodd Efe trwy ei brophwydi yn yr Ysgrythyrau sanctaidd —
3
am ei Fab, yr hwn a aned o hâd Dafydd yn ol y cnawd,
4
yr hwn a ddynodwyd yn Fab Duw mewn gallu yn ol yspryd sancteiddrwydd, trwy Adgyfodiad y meirw; sef Iesu Grist ein Harglwydd,
5
trwy yr hwn y derbyniasom ras ac apostoliaeth, i ufudd‐dod ffydd ym mhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ei enw ef:
6
ym mhlith y rhai yr ydych chwithau hefyd yn alwedigion Iesu Grist:
7
At bawb o rai anwyl Duw yn Rhufain, wedi eu galw i fod yn saint: Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
8
Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist am danoch chwi oll, oblegyd fod eich ffydd yn cael ei chyhoeddi yn yr holl fyd.
9
Canys fy nhyst yw Duw, yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd yn efengyl ei Fab ef, mor ddibaid yr wyf yn gwneuthur coffa o honoch bob amser yn fy ngweddiau,
10
yn deisyf a gawn ryw fodd ryw amser bellach rwydd‐hynt, yn ewyllys Duw, i ddyfod attoch chwi.
11
Canys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn ysprydol, fel y'ch cadarnhâer;
12
hynny yw, fel y'n calonoger ynghyd ynoch chwi, trwy y ffydd sydd yn y naill a'r llall, yr eiddoch chwi a'r eiddof finnau.
13
Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch (ond lluddiwyd fi hyd yn hyn), fel y cawn ryw ffrwyth hefyd ynoch chwithau, megys ag yn y Cenhedloedd eraill.
14
Dyledwr ydwyf i Roegiaid ac i Farbariaid hefyd, i ddoethion ac i rai anneallus hefyd.
15
Felly, o'm rhan i, awyddus wyf i efengylu i chwithau hefyd y rhai ydych yn Rhufain.
16
Canys nid oes arnaf gywilydd o'r efengyl, oblegyd gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un a'r sydd yn credu; i Iuddew yn gyntaf, hefyd i Roegwr.
17
Canys ynddi cyfiawnder Duw a ddadguddir, o ffydd i ffydd, fel y mae yn ysgrifenedig, Ond y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
18
Canys dadguddir digofaint Duw, o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn annghyfiawnder.
19
Canys yr hyn sydd wybyddus am Dduw sydd hyspys yn eu plith, canys Duw a'i hyspysodd iddynt.
20
Canys ei anweledig bethau ef, o greadigaeth y byd, a welir yn amlwg, gan gael eu canfod trwy y pethau a wnaed, sef ei fythol allu a'i Ddwyfoldeb; fel y maent hwy yn ddiesgus.
21
Oblegyd, a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, ac ni roddasant ddiolch; eithr hwy a wnaed yn ofer yn eu hymresymiadau, a thywyllwyd eu calon anneallus.
22
Gan honni eu bod yn ddoethion, hwy a wnaed yn ynfydion;
23
ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw am gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar‐carnol, ac ymlusgiaid.
24
O ba herwydd Duw a'u traddododd hwynt, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, fel yr ammherchid eu cyrph yn eu plith:
25
yn gyfryw ag a drawsnewidiasant wirionedd Duw yn y Celwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn hytrach na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywydd. Amen.
26
O herwydd hyn traddododd Duw hwynt i wyniau gwarthus; eu benywod hefyd a drawsnewidiasant yr arfer naturiol i'r hon sydd yn groes i natur:
27
ac yn gyffelyb y gwrrywod hefyd, gan adael yr arfer naturiol o'r fenyw, a fflamiasant i fyny yn eu chwant un am y llall, gwrrywod ynghyd â gwrrywod yn gweithredu yr anweddeidd‐dra, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl am eu cyfeiliornad, yr hwn oedd ddyledus.
28
Ac fel na fu gymmeradwy ganddynt gael Duw yn eu gwybodaeth, traddododd Duw hwynt i feddwl annghymeradwy i wneuthur pethau anweddus:
29
wedi eu llenwi a phob annghyfiawnder,, anfadrwydd, trachwant, drygioni, yn orlawn o genfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drygduedd; yn hustyngwyr,
30
yn athrodwyr, yn gashawyr Duw, yn sarhaus, yn feilchion, yn ymffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufudd i rieni,
31
yn anneallus, yn dorwyr ammod, yn ddiserch,, yn annhrugarog;
32
yn gyfryw ag yn gwybod ordeiniad Duw, fod y rhai sydd yn arfer y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth, ydynt nid yn unig yn arfer y cyfryw, eithr hefyd yn cydsynio â'r rhai sydd yn eu harfer hwynt.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16