bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 7
Romans 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
1
Ai heb wybod yr ydych, frodyr (canys wrth rai sydd yn gwybod am ddeddf yr wyf yn dywedyd), fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra byddo efe byw?
2
Canys y wraig briod sydd wedi ei rhwymo gan ddeddf i'r gŵr tra byddo efe byw: ond os bydd y gŵr farw, rhyddhâwyd hi oddiwrth ddeddf y gŵr.
3
Gan hynny, yn wir, a'r gŵr yn fyw, hi a ddyg yr enw o odineb‐wraig, os ä yn eiddo gŵr arall; ond os bydd y gŵr farw, y mae hi yn rhydd oddiwrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odineb‐wraig, er ei bod yn eiddo gŵr arall.
4
Gan hynny, fy mrodyr, chwithau hefyd a wnaed yn feirw i'r Ddeddf trwy gorph Crist, fel y byddoch eiddo un arall, yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
5
Canys pan oeddym yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy y Ddeddf, a weithient yn rymmus yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;
6
ond yn awr, rhyddhâwyd ni oddiwrth y Ddeddf, wedi marw o honom i'r peth yn yr hwn y'n delid, fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb yspryd, ac nid yn hendra y llythyren.
7
Beth gan hynny a ddywedwn? Ai pechod yw y Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabum i bechod, oddi eithr trwy ddeddf; canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r Ddeddf, Na thrachwanta.
8
Eithr pechod, wedi cael cychwyniad trwy y gorchymyn, a weithiodd yn rymmus ynof fi bob trachwant. Canys ar wahân â deddf y mae pechod yn farw.
9
Ac yr oeddwn i yn fyw unwaith ar wahân â deddf, ond pan ddaeth y Gorchymyn yr adfywiodd pechod,
10
ond myfi a fum farw; a'r Gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth:
11
canys pechod, gan gael cychwyniad trwy'r Gorchymyn, a'm twyllodd yn hollol, a thrwy hwnnw a'm lladdodd.
12
Gan hynny yn wir, y mae y Ddeddf yn sanctaidd, a'r Gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.
13
Am hynny, a ddaeth yr hyn sydd dda yn farwolaeth i mi? Na atto Duw; eithr pechod, fel yr ymddangosai ei fod yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi, trwy yr hyn sydd dda, fel y byddai pechod trwy y Gorchymyn yn bechadurus dros fesur.
14
Canys yr ydym yn gwybod fod y Ddeddf yn ysprydol; ond yr wyf fi yn gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod.
15
Canys nid wyf yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei weithredu; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gâs gennyf, hyn yr wyf yn ei wneuthur.
16
Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf yn cydsynio â'r Ddeddf mai da yw.
17
Ond yn awr, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu, ond y pechod sydd yn trigo ynof;
18
canys gwn nad oes ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegyd yr ewyllysio sydd yn bresennol i mi, ond gweithredu y da, nid yw;
19
canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei ymarfer.
20
Ac os wyf yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof.
21
Yn wir yr wyf yn cael y Ddeddf hon: I mi pan yn ewyllysio gwneuthur y da, i mi, meddaf, y mae y drwg yn bresennol.
22
Canys ymhyfrydu yr wyf yng Nghyfraith Duw yn ol y dyn oddimewn,
23
eithr yr wyf yn gweled deddf wahanol yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
24
O ddyn truenus ydwyf! pwy a'm gwared i allan o gorph y farwolaeth hon?
25
Diolch yr wyf i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hynny, yn wir, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu deddf Duw, ond â'r cnawd, ddeddf pechod.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16