bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 16
Romans 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
1
Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd ddiacones yr eglwys sydd yn Cenchrea,
2
fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd mewn modd teilwng o'r saint, ac y cefnogoch hi ym mha fater bynnag y bydd eich hanghen arni; canys hithau hefyd a fu amgeledd i lawer, ac i minnau fy hun hefyd.
3
Cyferchwch Priscilla ac Acwila fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu,
4
y rhai dros fy mywyd a ddodasant i lawr eu gwddf eu hunain, i'r rhai nid myfi yn unig sydd yn diolch, ond hefyd holl eglwysi y Cenhedloedd;
5
Cyferchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwynt. Cyferchwch fy anwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist.
6
Cyferchwch Mair, yr hon a lafuriodd lawer ar eich rhan chwi.
7
Cyferchwch Andronicus a Junias, fy nghyd‐wladwyr, a'm cyd‐garcharorion, a'r rhai ydynt o nôd ym mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o'm blaen i.
8
Cyferchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd.
9
Cyferchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd.
10
Cyferchwch Appelles y profedig yng Nghrist. Cyferchwch y rhai sydd o dy Aristobulus.
11
Cyferchwch Herodion, fy nghyd‐wladwr. Cyferchwch y rhai sydd o dy Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd.
12
Cyferchwch Tryphena a Tryphosa, y rhai sydd yn llafurio yn yr Arglwydd. Cyferchwch yr anwyl Persis, yr hon a lafuriodd lawer yn yr Arglwydd.
13
Cyferchwch Rufus, yr etholedig yn yr Arglwydd, a'i fam ef a minnau.
14
Cyferchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Hermes, a'r brodyr sydd gyda hwynt.
15
Cyferchwch Philologus a Julia, Nereus a'i chwaer, ac Olympas, a'r holl saint y rhai sydd gyda hwynt.
16
Cyferchwch y naill a'r llall â chusan sanctaidd. Y mae holl eglwysi Crist yn eich cyfarch.
17
Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri yr ymraniadau a'r tramgwyddau yn groes i'r athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a throwch oddiwrthynt;
18
canys y cyfryw rai ni wasanaethant ein Harglwydd Crist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy lyfniaith a gweniaith hwy a hudant galonnau y rhai diniwed.
19
Canys eich ufudd‐dod chwi a gyrhaeddodd glustiau pawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawenhau ynoch chwi, ond ewyllysiaf i chwi fod yn ddoethion tuag at yr hyn sydd dda, ac yn ddilwgr tuag at yr hyn sydd ddrwg.
20
A Duw yr heddwch a sathr Satan dan eich traed yn fuan. Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.
21
Mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr yn eich cyfarch; a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy nghyd‐wladwyr.
22
Yr wyf fi Tertius yn eich cyfarch chwi, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn yn yr Arglwydd.
23
Y mae Gaius, fy llettywr i, a'r holl eglwys, yn eich cyfarch. Y mae Erastus, trysorydd y ddinas, yn eich cyfarch, a'r brawd Cwartus.
25
Yn awr i'r hwn sydd alluog i'ch cadarnhâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch a gadwyd mewn dystawrwydd trwy amserau tragywyddol,
26
eithr yn awr a eglurwyd trwy yr Ysgrifeniadau Prophwydol yn ol ordeiniad y tragywyddol Dduw, wedi ei wneuthur yn hysbys i'r holl genhedloedd er ufudd‐dod ffydd,
27
— i'r unig ddoeth Dduw, trwy Iesu Grist, y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16