bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 8
Romans 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
1
Nid oes gan hynny yn wir yn awr ddim condemniad i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu.
2
Canys Deddf Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'th rhyddhâodd di oddiwrth Ddeddf pechod a marwolaeth.
3
Canys y peth ammhosibl i'r Ddeddf wneyd, yn yr hyn yr oedd yn wan trwy y cnawd, Duw, wedi danfon ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd,
4
fel y cyflawnid rheol gyfiawn y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd.
5
Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synio; eithr y rhai sydd yn ol yr Yspryd, am bethau yr Yspryd.
6
Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; eithr syniad yr Yspryd, bywyd a thangnefedd yw;
7
oblegyd syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw, canys nid yw yn ymostwng i Ddeddf Duw, oblegyd yn wir nis gall.
8
A'r rhai sydd yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw.
9
Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
10
Ond os yw Crist ynoch, y mae y corph yn wir yn farw, o herwydd pechod; eithr yr yspryd yn fywyd, o herwydd cyfiawnder.
11
Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist o feirw a fywhâ hefyd eich cyrph marwol chwi o herwydd ei Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.
12
Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ol y cnawd;
13
canys os byw yr ydych yn ol y cnawd, yr ydych ar fedr marw; eithr os trwy yr Yspryd y marwhêwch weithredoedd y corph, byw fyddwch.
14
Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn yw meibion Duw.
15
Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy yr hwn y llefwn, Abba, Dâd!
16
Y mae yr Yspryd ei hun yn cyd‐dystiolaethu â'n hyspryd ni ein bod yn blant i Dduw;
17
ac os plant, etifeddion hefyd; etifeddion yn wir i Dduw, a chyd‐etifeddion â Christ; os yn wir yr ydym yn cyd‐ddyoddef gydag ef, fel y'n cyd‐ogonedder hefyd.
18
Oblegyd yr ydwyf yn cyfrif nad yw dyoddefiadau yr adeg bresennol hon yn haeddu eu cyferbynu â'r gogoniant sydd ar fedr cael ei ddadguddio mewn perthynas i ni.
19
Canys dwys‐awyddfryd y greadigaeth sydd yn taer‐ddysgwyl am ddadguddiad meibion Duw.
20
Canys y greadigaeth a ddarostyngwyd i oferedd, nid o'i bodd, eithr oblegyd yr hwn a'i darostyngodd, mewn gobaith
21
y rhyddheir y greadigaeth ei hun o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw.
22
Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cyd‐ocheneidio ac ynghyd mewn gwewyr‐esgor hyd yn awr.
23
Ac nid hynny yn unig, eithr ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Yspryd, — yr ydym ninnau hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan daer‐ddysgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph.
24
Canys mewn gobaith y'n hachubwyd: eithr gobaith a welir nid yw obaith: canys pwy sydd yn gobeithio am yr hyn y mae yn ei weled?
25
Ond os ydym yn gobeithio am yr hyn nid ydym yn ei weled, yr ydym trwy ddewr‐ymaros yn taer‐ddysgwyl am dano.
26
Yr un modd hefyd y mae yr Yspryd yn cynnorthwyo ein gwendid ni: canys ni wyddom ni am beth y gweddiom megys y dylem: eithr y mae yr Yspryd ei hun yn erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy.
27
A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
28
Ac ni a wyddom fod pob peth yn cyd‐weithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef.
29
Oblegyd y rhai a rag‐wybu a rag‐ordeiniodd efe hefyd i'w cyd‐ffurfio â delw ei Fab ef, fel y byddai efe y cyntaf‐anedig ym mhlith brodyr lawer:
30
a'r rhai a rag‐ordeiniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhâodd efe; a'r rhai a gyfiawnhâodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.
31
Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?
32
Yr hwn nid arbedodd ei briod fab, ond a'i traddododd drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na rad‐rodda efe i ni bob peth?
33
Pwy a ddyg gyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Ai Duw, yr hwn sydd yn cyfiawnhau?
34
Pwy sydd yn condemnio? Ai Crist Iesu a fu farw, ïe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd o feirw, yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni?
35
Pwy a'n gwahana ni oddiwrth gariad Crist? Ai gorthrymder? neu ing? neu erledigaeth? neu newyn? neu noethni? neu berygl? neu gleddyf?
36
Megys y mae yn ysgrifenedig: Er dy fwyn di y lleddir ni ar hyd y dydd, Cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.
37
Na! yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na gorchfygwyr trwy yr hwn a'n carodd ni.
38
Canys yr wyf yn sicr na all nac angau, nac einioes, nac angelion, na thywysogaethau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, na nerthoedd,
39
nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16