bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 14
Romans 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
1
Yr hwn sydd wan yn y ffydd derbyniwch attoch, ond nid i feirniadaeth o'i dybiadau.
2
Un, yn wir, sydd ganddo ffydd i fwytta pob peth, ond yr hwn sydd yn wan, llysiau y mae yn fwytta.
3
Yr hwn sydd yn bwytta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwytta; a'r hwn nid yw yn bwytta, na farned yr hwn sydd yn bwytta, canys Duw a'i derbyniodd ef atto.
4
Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? i'w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio; ac efe a wneir i sefyll, canys fe a all Duw wneyd iddo sefyll.
5
Un a farn ddiwrnod uwchlaw diwrnod, ond arall a farn bob diwrnod yr un fath: bydded pob un yn hollol argyhoeddedig yn ei feddwl ei hun.
6
Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i'r Arglwydd y mae yn ei ystyried,, a'r hwn sydd yn bwytta, i'r Arglwydd y mae yn bwytta, canys y mae yn diolch i Dduw; a'r hwn nad yw yn bwytta, i'r Arglwydd nid yw yn bwytta, ac y mae yn diolch i Dduw.
7
Canys nid oes neb o honom yn byw iddo ei hun, ac nid oes neb yn marw iddo ei hun.
8
Ac os byw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw; ac os marw ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn marw; gan hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym.
9
I hyn y bu Crist farw a byw, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a'r byw.
10
Eithr tydi, paham y berni dy frawd? neu etto tydi, paham y dirmygi dy frawd? Canys gosodir ni oll gerbron brawdle Duw;
11
canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd, oblegyd i mi y plyga pob glin, a phob tafod a gyffesa i Dduw.
12
Felly, gan hynny, pob un o honom am dano ei hun a rydd gyfrif i Dduw.
13
Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach, eithr bernwch hyn yn hytrach, na byddo i neb osod maen‐tramgwydd ar ffordd ei frawd, neu fagl.
14
Mi a wn, ac yr wyf wedi fy mherswadio yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; ond i'r hwn sydd yn cyfrif peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan.
15
Canys os o achos bwyd y tristhêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
16
Na chabler, gan hynny, eich daioni chwi;
17
canys nid bwytta ac yfed yw Teyrnas Dduw, eithr cyfiawnder a thangnefedd, a llawenydd yn yr Yspryd Glân.
18
Canys y neb sydd yn gwasanaethu Crist yn y peth hwn sydd yn rhyngu bodd i Dduw ac yn gymmeradwy gan ddynion.
19
Felly gan hynny yr ydym ni yn dylyn pethau tangnefedd a phethau adeiladaeth ein gilydd.
20
O achos bwyd na ddinystria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân, eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwytta trwy dramgwydd.
21
Da yw peidio â bwytta cig nac yfed gwin, na gwneuthur dim yn yr hwn y mae tramgwydd i'th frawd.
22
Y ffydd yr hon sydd gennyt, ceidw i ti dy hun gerbron Duw. Dedwydd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei gymmeradwyo;
23
eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwytty, sydd wedi ei gondemnio, am nad o ffydd y gweithreda: a phob peth nad yw o ffydd, pechod yw.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16