bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Romans 11
Romans 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
1
Am hynny meddaf, A fwriodd Duw ymaith ei bobl? Na atto Duw: canys yr wyf fi hefyd yn Israeliad o hâd Abraham, o lwyth Benjamin.
2
Ni fwriodd Duw ymaith bobl y rhai a rag‐adnabu efe. Oni wyddoch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr yn yr adran am Elias, y modd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,
3
O Arglwydd, hwy a laddasant dy brophwydi, ac a gloddiasant i lawr dy allorau, ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.
4
Eithr pa beth a ddywed atteb Duw wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant lin i Baal.
5
Gan hynny yr un modd y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ol etholedigaeth gras,
6
ac os trwy ras, nid yw mwyach o weithredoedd: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach.
7
Pa beth, ynte? Yr hyn y mae Israel yn ei daer‐geisio nis cafodd: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd,
8
megys y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt yspryd cysgadrwydd; Llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd hwn.
9
Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bwrdd hwy yn fagl, ac yn rhwyd, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt;
10
Tywyller eu llygaid fel na welont, A chydgrymma eu cefn yn wastad.
11
Gan hynny meddaf, A dripiasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw: eithr trwy eu syrthiad hwy ymaith, y mae yr iachawdwriaeth i'r Cenhedloedd er eu gwneyd yn eiddigus,
12
ac os yw eu syrthiad ymaith yn olud y byd, a'u syrthiad yn fyr yn olud y Cenhedloedd, pa faint mwy eu cyflawnder?
13
Ond wrthych chwi y Cenhedloedd y dywedaf, Yn gymmaint a'm bod i gan hynny yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy ngweinidogaeth,
14
os mewn un modd y gwnaf yn eiddigus fy nghnawd fy hun, ac achub rhai o honynt.
15
Canys os yr ymwrthodiad â hwy yw cymmod y byd, beth fydd eu derbyniad ond bywyd o feirw?
16
Ac os yw y blaenffrwyth yn sanctaidd, y mae y crynswth hefyd; ac os yw y gwreiddyn yn sanctaidd, y mae y canghennau hefyd.
17
Ond os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi, yn olew‐wydden wyllt, a impiwyd i mewn yn eu plith, ac yn gyd‐gyfrannog o wreiddyn brasder yr olew‐wydden,
18
nac ymffrostia yn erbyn y canghennau: ac os ymffrosti yn eu herbyn, nid tydi sydd yn cynnal y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.
19
Ti a ddywedi gan hynny, Torrwyd canghennau ymaith, fel yr impid fi i mewn.
20
Rhagorol! Trwy eu hannghrediniaeth y torrwyd hwynt ymaith, a thithau wyt yn sefyll trwy dy ffydd! Na fydd uchel‐fryd, eithr ofna;
21
canys os nid arbedodd Duw y canghennau naturiol, ni'th arbeda dithau chwaith.
22
Gwel gan hynny garedigrwydd a llymder Duw: tuag at y rhai a gwympasant, llymder; tuag attat ti, caredigrwydd Duw, os arhosi yn ei garedigrwydd: os amgen, torrir dithau hefyd ymaith.
23
A hwythau hefyd, os nid arhosant mewn annghrediniaeth, a impir i mewn, canys Duw sydd alluog i'w himpio hwy i mewn drachefn.
24
Canys os torrwyd di ymaith o'r olew‐wydden wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn olew‐wydden dda, pa faint mwy y bydd i'r rhai hyn sydd wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holew‐wydden eu hun?
25
Canys nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod, frodyr, y dirgelwch hwn, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain: ddyfod caledwch o ran i Israel, hyd oni ddel cyflawnder y Cenhedloedd i mewn;
26
ac felly holl Israel a achubir, fel y mae yn ysgrifenedig, Daw allan o Sion y Gwaredydd, Ac a dry ymaith annuwioldebau o Jacob;
27
A hwn yw y Cyfammod iddynt oddiwrthyf fi, Pan gymmerwyf ymaith eu pechodau.
28
O berthynas, yn wir, i'r efengyl, gelynion ydynt er eich mwyn chwi, ond mewn perthynas â'r etholedigaeth, anwyliaid ydynt er mwyn y Tadau.
29
Canys ni elwir yn ol rad‐ddoniau a galwedigaeth Duw.
30
Canys megys y buoch chwithau gynt yn anufudd i Dduw, eithr yn awr a gawsoch drugaredd drwy anufudd‐dod y rhai hyn;
31
felly hwythau hefyd yn awr a anufuddhasant, fel y caent hwythau yn awr drugaredd trwy y drugaredd a estynwyd i chwi;
32
canys y mae Duw wedi cyd‐gau pawb i anufudd‐dod, fel y trugarhâi wrth bawb.
33
O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef, a'i ffyrdd, mor anolrheiniadwy ydynt!
34
Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd; neu pwy fu Gynghorwr iddo?
35
Neu, pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn?
36
Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16